Wrth i ni gau cegin Chapter ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol rhwng 21 a 23 Gorffennaf, byddwn yn croesawu dau gwmni bwyd stryd anhygoel i ddisodli ein bwydlen arferol.
Ddydd Sul 21 Gorffennaf, bydd Keralan Karavan yn parcio yn yr ardd i weini eu bwyd o Dde India. Mae Keralan Karavan yn ddewis poblogaidd, ac maen nhw newydd ennill Cymeradwyaeth Uchel Gwobrau Bwyd Cymru 2019.
Ddydd Llun 22 Gorffennaf a dydd Mawrth 23 Gorffennaf, bydd y Queen Pepiada yn cymryd eu lle o flaen ein hadeilad – cerbyd melyn bwyd stryd sy'n gweini bwyd gwreiddiol (a blasus iawn) o Venezuela. Bydd man eistedd yn yr awyr agored ar gael.
Bydd bwyd yn cael ei weini o ganol dydd bob dydd, tan i'r cyfan werthu.
Bydd Chapter yn parhau i weini diodydd yn y Caffi Bar yn ystod y cyfnod yma.
Bydd gwasanaeth bwyd arferol Chapter yn dychwelyd ddydd Mercher 24 Gorffennaf.
Conversations