Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
 

The Cardiff Tapes - Drama am gelf, yn seiliedig ar stori wir Wedi ei bostio ar 16 Medi 2019

The Cardiff Tapes - a play about art, based on a true story

Chapter a Theatr Everyman yn cyflwyno drama newydd sbon, The Cardiff Tapes, wedi'i hysbrydoli gan gerflun Garth Evans o 1972 yng Nghaerdydd.

Ar 19, 20 a 21 Medi, ymunwch â ni yn Chapter wrth i ni arddangos drama newydd sydd wedi'i hysbrydoli gan stori wir am gerflun Garth Evans. Y diwrnod ar ôl gosod y cerflun am y tro cyntaf ym 1972, teithiodd Garth Evans i ganol dinas Caerdydd, ac aeth ati'n ddi-enw i recordio sylwadau'r bobl a oedd yn cerdded heibio i'r cerflun. Trawsgrifiad y recordiadau diddorol yma yw sail y ddrama wreiddiol. 

Adolygodd Leila Philip dâp 1972, ac roedd wedi'i chyffroi gan y syniad o'i drawsnewid yn ddrama. Addaswyd The Cardiff Tapes gan yr awdur llwyddiannus Leila Philip, caiff ei chyfarwyddo gan Wayne Vincent, a'i chyflwyno mewn partneriaeth â Theatr Everyman.

Yn ogystal â pherfformiad The Cardiff Tapes: arddangosfa Garth Evans’ But, Hands Have Eyes + Cerflun di-enw yn The Hayes, Cardiff.

Bydd The Cardiff Tapes yn dangos yn Theatr Seligman Chapter ar 19, 20 & 21 Medi (+BSL perfformiad ar ddydd Sadwrn, 2y.p) Tocynnau ar gael nawr

undefined

undefined

undefinedLluniau gan Tim Ferguson

 

Conversations