Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Mae Chapter ynghau dros dro. Rydym yn cynnig rhaglen o uchafbwyntiau a newyddion yn ddigidol drwy ein gwefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol. Fel elusen cofrestredig rydym yn cynhyrchu dros 80% o’n hincwm ein hunain a gall eich cefnogaeth helpu i ddiogelu dyfodol ein canolfan gelfyddydau. Os gwelwch yn dda cyfrannwch arlein, neu i roi £10 tecstiwch CHAPTER i 70191. Diolch am eich cefnogaeth ac rydym yn edrych mlaen i’ch croesawu chi nol. Darllennwch ein diweddariad Coronafeirws llawn yma

 

UPROAR Ensemble Cerddorol Newydd Cymru yn dychwelyd i Chapter Wedi ei bostio ar 05 Chwef 2020

UPROAR Wales New Music Ensemble return to Chapter

Yn dilyn perfformiad agoriadol UPROAR o 10x10 ym mis Hydref 2018, pan gafodd pob tocyn ei werthu, bydd eu hail brosiect Professor Bad Trip yn cael ei berfformio yng Chapter ar 28 Chwefror 2020.

Gan ddychwelyd gyda rhaglen newydd ar gyfer Professor Bad Trip, bydd cerddorion newydd UPROAR sy'n arbenigwyr cerddorol yn cyflwyno perfformiadau Première Byd o dri darn comisiwn o gerddoriaeth wedi eu creu ar gyfer ensemble mawr ac electroneg byw gan dri chyfansoddwr cyfoes o Gymru - pob un ar gam gwahanol yn eu gyrfa - ynghyd â pherfformiadau Première Cymru o dri darn gan dri chyfansoddwr rhyngwladol amlwg.

Bydd sgwrs cyn y perfformiad gan y cyfansoddwr Steph Power.

Mae UPROAR yn cofleidio'r holl feysydd sy'n rhan o gerddoriaeth glasurol gyfoes. Fel grŵp aeddfed a chrefftus o gerddorion sy'n llawn angerdd am gerddoriaeth ac sy'n ymgorffori'r holl sgiliau angenrheidiol i berfformio cerddoriaeth gyfoes, mae mewn lle delfrydol i gyflawni'r rôl hwn yng Nghymru. Ar hyn o bryd does dim grŵp yng Nghymru yn perfformio ar y raddfa a'r lefel yma neu gyda'r ymrwymiad yma ac mae ensemble o'r fath yn amhrisiadwy ar gyfer datblygu cerddoriaeth newydd mewn gwledydd ar draws y byd.

Mae tocynnau ar gael nawr

Rhaglen 

Sarah Lianne Lewis - Comisiynau Newydd
Bethan Morgan-Williams - Comisiynau Newydd
Andrew Lewis - Comisiynau Newydd
Tristan Murail - Winter Fragments
Fausto Romitelli - Professor Bad Trip: Lesson III
Kaija Saariaho - Lichtbogen

Conversations