Rydyn ni wrth ein boddau o gael cyhoeddi Gŵyl Ffilmliau 'Dod ag Affrica i Gymru', wedi'i chyflwyno gan Watch-Africa Cymru.
Dechreuodd Watch-Africa Cymru 8 mlynedd yn ôl yn y de, a hi yw'r unig Ŵyl Ffilmiau Affricanaidd yng Nghymru.
Cynhelir y 9fed ŵyl eleni rhwng 19 a 28 Chwefror.
Gyda diolch i'n cefnogwyr, Ffilm Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Watch-Africa Cymru wedi curadu rhaglen gyffrous a fydd yn cael ei darparu ar-lein, yn bennaf drwy Chwaraewr Chapter.
Bydd yr ŵyl yn arddangos 10 ffilm gyfareddol, sesiynau holi ac ateb byw gyda Chyfarwyddwyr, Castiau ac Arbenigwyr, a bydd hefyd yn cynnig gweithdai diddorol wedi'u trefnu'n arbennig i gyd-fynd â'r ffilmiau (gan gynnwys gweithdy ar Chwedloniaeth Affricanaidd).
Meddai Watch-Africa Cymru: "Wrth i ni edrych ymlaen at arddangos blwyddyn arall o ddiwylliant Affrica ar ei orau drwy gelfyddyd Sinema, edrychwn ymlaen at y profiadau diwylliannol dilys fydd yn cael eu creu drwy groesi ffiniau yn y cyweithiau trawswladol yma. Byddwn yn dechrau'r rhaglen gyda gwaith y Gymraes Affricanaidd Florence Ayisi, ac yn cloi'r tymor gyda dangosiad a thrafodaeth gloi frenhinol gyda gwneuthurwyr 'Buganda Royal Music Revival' a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru."
Meddai Claire Vaughan, ein Rheolwr Rhaglen Sinema: "Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Watch-Africa Cymru ers blynyddoedd, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cynnig yr ŵyl yn ddigidol i gynulleidfaoedd eleni. Mae yna bethau arbennig i ddod – ffilmiau dogfen gan wneuthurwyr o Gymru, sylwebaeth gymdeithasol, comedi, clasuron, a'r ffotograffiaeth harddaf welwch chi eleni. Peidiwch â cholli cyfle i brofi'r ffilmiau hyfryd yma, ac i weld ychydig o'r byd nad yw ar gael i ni ar hyn o bryd."
Mae tocynnau i Ŵyl Ffilmiau Dod ag Affrica i Gymru nawr ar werth. Bydd modd prynu pob ffilm a'u ffrydio ar Chwaraewr Chapter: www.chapter.vhx.tv/browse
I weld y manylion llawn a rhaglen yr ŵyl ac i archebu tocynnau, ewch i: https://www.chapter.org/cy/gwyl-ffilmiau-watch-africa-cymru-2021/
I gofrestru eich diddordeb ar gyfer y gweithdai a'r sesiynau holi ac ateb, ewch i: www.watch-africa.co.uk
Conversations