Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
 

Mis Hanes Menywod yn Chapter Wedi ei bostio ar 03 Maw 2020

Women’s History Month at Chapter

Ym mis Mawrth, bydd Chapter yn cynrychioli detholiad o berfformiadau a ffilmiau sy’n dathlu menywod, rhai ffuglennol a gwirioneddol, mewn cyd-destunau hanesyddol ar gyfer Mis Hanes Menywod.

Ar 6 Mawrth, mae Olivia Louvel yn cyflwyno Data Regina - cyfres aml-gyfrwng yw Data Regina lle mae hi’n archwilio teyrnasiad Mari, Brenhines yr Alban ac Elisabeth I, Brenhines Lloegr.

Mae Cwmni Theatr Everyman yn archwilio confensiynau cymdeithasol rhagfarnllyd bywyd israddedig hanesyddol o safbwynt menywod yn eu cynhyrchiad Blue Stockings gan Jessica Swales. Mae’r teitl yn cyfeirio at y term difrïol a ddefnyddiwyd i ddisgrifio myfyrwyr benywaidd.

Mae’r ffilm newydd gyffrous, Portrait Of a Lady On Fire, yn parhau ei rhediad dros bythefnos ar ddechrau’r mis

Bydd Little Women (2019) hefyd yn dychwelyd ar ôl llawer o alw a Diwrnod Gweithgareddau Ffilm. Bydd y gweithdy anhygoel yma gan Beth Morris yn dod â chenedlaethau ynghyd mewn modd hyfryd a chreadigol.

Ffilm gofiannol steilus am y wyddonwraig gyntaf - Marie Curie - i ennill gwobr Nobel yw Radioactive

Hefyd ym mis Mawrth, mae’r ffilm ddogfen Be Natural: The Untold Story of Alice Guy – sy’n gofnod syfrdanol o arloeswr ym myd creu ffilmiau – yn sicr yn werth ei gweld.

Bydd Mis Hanes Menywod ym mis Mawrth. Archebwch docynnau

undefinedLluniau: Be Natural: The Untold Story of Alice Guy & Little Women

Conversations