Artist Enwebedig Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Toby Hay yn Chapter mis Tachwedd

Posted on: 11 Oct 2017

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd holl artistiaid enwebedig Gwobr Gerddoriaeth Gymreig gan gynnwys albwm cyntaf y gitarydd, Toby Hay sydd yn perfformio yn Chapter ar nos Wener Tachwedd 24.

Mae Toby yn gitarydd o Rhaeadr Gwy yng nghanolbarth Cymru sy’n creu cerddoriaeth offerynnol wedi ei ysbrydoli gan dirwedd, pobl a hanes yr ardal. Rhyddhaodd ei albwm cyntaf The Gathering yn gynharach flwyddyn yma ac mae wedi teithio’n bell ac agos ar hyd Prydain a chwaraeodd yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym mis Awst.

Mae llawer o’r artistiaid eraill sydd wedi eu henwebu yn y gystadleuaeth hefyd wedi chwarae yn Chapter yn cynnwys The Gentle Good, Georgia Ruth, Gruff Rhys, H Hawkline, HMS Morris and Sweet Baboo. Cyhoeddir enillydd y Gwobr Gerddoriaeth Gymreig ar Hydref 20.

Mae tocynnau i Toby Hay (gyda chefnogaeth gan Harri Davies) yn Chapter ar Dachwedd 24 ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400 neu ar-lein ar www.chapter.org

 

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×