Pam fod Canolfan Gelfyddydau Chapter yn cefnogi'r gwaith o adnewyddu ac adleoli cerflun gan Garth Evans

Posted on: 21 Dec 2018

Ym 1972, creodd yr artist dylanwadol, Garth Evans, gerflun graddfa fawr a osodwyd yn yr Aes yng nghanol Dinas Caerdydd am gyfnod o chwe mis, fel rhan o brosiect Cerfluniau Dinesig Peter Stuyvesant lle gosodwyd 16 darn o waith yng nghanol wyth dinas yng Nghymru a Lloegr.  

Roedd y Prosiect Cerfluniau Dinesig yn nodi moment uchelgeisiol yn hanes cerfluniau cyhoeddus Prydain. Cafodd gweithiau graddfa fawr gan gerflunwyr a oedd yn rhan amlwg o drafodaethau cyfoes eu gosod yng nghanol dinasoedd prysur. Y nod oedd arddangos cerfluniau newydd oedd heb gysylltiad â'r henebion a'r cofebau cyhoeddus mwy cyfarwydd. Yn ganolog i hyn, y bwriad oedd dechrau sgyrsiau rhwng cerfluniau haniaethol a phobl a oedd yn byw ac yn gweithio mewn amgylcheddau dinesig – y tu allan i Lundain yn benodol. 

Yr Artist Rhyngwladol, Garth Evans, yng Nghaerdydd

Dewisodd Garth Evans osod ei waith yng Nghaerdydd, gan mai dyma oedd man geni ei daid, a'r ddinas a oedd wrth galon ei wreiddiau yng Nghymru:

"Magwyd fy mam ym mhentref bach glofaol Pencoed, ac roedd fy nhaid a brodyr fy mam yn lowyr yn yr ardal. Fel plentyn, treuliais hafau yn Ne Cymru, ac mae gen i atgofion byw o wrando ar fy ewythrod a dynion eraill yn siarad am eu bywydau o dan y ddaear, yn y tywyllwch – straeon am ddamweiniau a diangfeydd, trychinebau a cholledion, ac am y streiciau hir a chwerw. Ro'n i eisiau gwneud rhywbeth ro'n i'n teimlo oedd â chysylltiad â diwydiannau glo a dur De Cymru, ond ro'n i'n ofalus i beidio â'i ddisgrifio fel heneb neu gofeb. Ro'n i eisiau dod o hyd i ffurf yr oedd modd ei amgyffred, gyda phresenoldeb rhywbeth gweithredol, fel teclyn, neu forthwyl, efallai."

Llais y Cyhoedd

Gan bryderu bod y galw masnachol cynyddol am ei waith ar y pryd yn gwneud dim ond atgyfnerthu'r status quo gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd, roedd Garth yn gobeithio siglo'r ddeinameg hon drwy greu cerflun a fyddai'n cysylltu â chynulleidfa y tu allan i'r byd celfyddydol.

Y bore ar ôl ei osod, aeth ati'n ddi-enw i recordio sylwadau'r bobl a oedd yn cerdded heibio iddo, gan siarad cyn lleied â phosib, ac ni chyfeiriodd at y gwrthrych fel 'cerflun'. Rhoddodd y recordiadau dilynol gipolwg unigryw ar ymatebion pobl:

"Baswn i'n hoffi pe bai na gant arall tebyg iddo" Di-enw

"Bydd yn dod yn amlwg i fi ryw ddydd. Ond, erbyn hynny, bydd gen i ddehongliadau gwahanol, yn dibynnu ar fy nhymer, chi'n gweld, a bydda i'n gweithio ar hyn – achos mae'n bryfoclyd" Dyn rhif 41

"Jyst celf yw e, ie?" Gŵr

"Mae'n waith gan ddyn sydd wedi rhoi ei fywyd iddo!" Dyn rhif 20

"Does dim llawer o harddwch ynddo. Alla i ddim gweld dim harddwch o gwbl yn hwnna" Y Dyn Cyntaf

Ar ddiwedd yr arddangosfa chwe mis o hyd, symudwyd pob cerflun a oedd yn rhan o'r prosiect i leoedd eraill – gwerthwyd rhai, a dinistriwyd eraill. Ail-leolwyd cerflun Garth i Swydd Gaerlŷr, gan aros o dan ei berchenogaeth, ac yno mae wedi'i guddio rhag y cyhoedd ers dros bedwar degawd.  

Yr Adferiad

Mae'r blynyddoedd wedi dangos eu hôl ar y gwaith, ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch, i ddechrau, yn golygu y gallwn ni gynnal y gwaith adfer arbenigol sydd ei angen i atal rhagor o ddifrod i'r cerflun pwysig hwn, a difrod na fyddai modd ei adfer. Yn ail, byddwn ni'n gallu dychwelyd y gwaith i'w leoliad gwreiddiol yng Nghaerdydd am chwe mis – tua hanner can mlynedd ar ôl ei arddangos yn y ddinas y tro cyntaf – lle bydd yr artist yn recordio ymatebion a sylwadau'r rhai sy'n cerdded heibio iddo unwaith eto, i fesur sut mae perthynas y cerflun gyda'r ddinas a'r sylwebydd dinesig wedi newid.

Gwaith Chapter gyda Garth Evans

Mae'r prosiect hwn yn ffurfio rhan bwysig o ddathliad ehangach gwaith Garth yng Nghaerdydd. I gyd-fynd â'r prosiect, bydd arddangosfa unigol fawr yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter (arddangosfa gyntaf yr artist yng Nghymru ers 1976). Bydd yr arddangosfa'n lansio ym mis Mai 2019, a bydd yn cynnwys gweithiau arwyddocaol o'r saithdegau hyd heddiw.

Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys cynhyrchiad theatrig o 'Cardiff', drama wreiddiol wedi'i haddasu o recordiadau 1972 gan Leila Philip, Athro Llenyddiaeth a dramodydd sydd wedi ennill gwobrau. Cwmni Three A Productions sy'n cynhyrchu'r ddrama, a llwyfannwyd hi yn y Duplex yn Ninas Efrog Newydd ym mis Ionawr 2017. Bydd ail berfformiad o 'Cardiff', wedi'i haddasu a gydag actorion lleol, yn cyd-fynd â'r arddangosfa unigol, a bydd yn cael ei pherfformio yn Theatr Seligman Chapter ym mis Medi 2019.

Unwaith i'r prosiect chwe mis o hyd ddod i ben, bydd yr artist yn rhoi'r cerflun yn rhodd i Gymru, ac rydym wedi gallu sicrhau cartref parhaol iddo a fydd yn golygu y bydd y gwaith yn weladwy i'r cyhoedd ac y bydd yn derbyn gwaith cynnal a chadw priodol am flynyddoedd i ddod.

Sut allwn ni helpu i wireddu hyn?

Mae Chapter wedi bod yn chwilio am arian gan y sector preifat ers dros ddeng mlynedd er mwyn cyflawni llawer o'i phrosiectau mwyaf uchelgeisiol. Mae cyfraniadau gan unigolion wedi ffurfio rhan o'r strategaeth hon, oedd â'r nod o ymgysylltu'n well gyda'n cynulleidfaoedd ac amlygu'r effaith y gall eu cefnogaeth – drwy gyfraniadau ar bob lefel – ei chael.

Mae Chapter wedi cael ei chydnabod ers cryn amser am ei hagwedd tuag at ddyngarwch unigol – yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru am ein cyfranogiad yn un o'r 'Dyddiau Mawrth Rhoi' cyntaf erioed, a gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy'n mynd ati i'n hannog ni i fod yn arloesol ac yn uchelgeisiol yn ein hymdrechion i godi arian.

Aeth Chapter at elusen Art Fund i gael cefnogaeth ar gyfer hyn, ein hymgyrch cyllido torfol ar-lein gyntaf, ac rydym yn gobeithio y bydd awydd pobl i fod yn ddyngarol yn golygu y byddan nhw'n sylweddoli y bydd eu cyfraniadau, mawr neu fach, yn gwneud newid sylweddol.

Mae cynulleidfa y cysylltir â hi'n well yn fwy tebygol o gyfrannu, ac mae adroddiad 'The Status of UK Fundraising Benchmark Report' gan Blackbaud a'r Sefydliad Codi Arian yn 2018 yn dangos mai cyfraniadau gan unigolion yw'r ffynhonnell incwm bwysicaf i elusennau wrth godi arian, gyda 28% o ymatebwyr mewn arolwg diweddar yn nodi hyn fel y ffynhonnell bwysicaf, wedi'i ddilyn gan ffioedd, incwm a enillir, a grantiau yn y drefn honno.Drwy ddewis gweithio gyda sefydliad cenedlaethol fel Art Fund, rydyn ni'n credu y byddwn yn llwyddo i ddenu cyfraniadau ehangach i Gymru gan unigolion nad ydynt o bosib yn ymwybodol o'r angerdd a'r talent sydd i'w gael yn sector creadigol Cymru. Mae'n cynnig cyfle gwych, nid yn unig i Chapter, ond i'r sector ehangach ymelwa ac i ddechrau cyrraedd cynulleidfaoedd a noddwyr ledled gwledydd Prydain.

Cynhelir yr ymgyrch tan 14 Ionawr 2019.Gallwch wneud cyfraniad drwy www.artfund.org/save-our-sculpture.

 

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×