Cyngherddau a Dramau yng Nghaeredin

Posted on: 06 Sep 2017 by Philip Wyn Jones

Dw i newydd dreulio pedair wythnos yng Ngwyl Ryngwladol Caeredin a’r Fringe. Yn yr Wyl bum cyngerdd. Yn y Fringe ddwy gyngerdd a naw cyflwyniad yn yr adran ddrama. Bach, Brahms, Monteverdi a Telemann oedd y cyfansoddwyr clasurol gyda pherfformiadau yn y Canongate Kirk, Eglwys Gadeiriol Sant Giles a’r Queen’s Hall. Mae perfformiadau dramatig y Fringe yn cael eu cynnal ar hyd ac ar led y ddinas ac mae cael hyd i’r holl leoliadau yn gryn gamp.

Dyma gip ar y perfformiadau dramatig hyn, yn y drefn y gwelais i nhw. Teulu ydy’r Jurassic Parks (Superbolt Theatre). Pan maen nhw’n siarad maen nhw’n ffraeo ond maen nhw’n cytuno ynghylch un peth. Rhaid eistedd i lawr gyda’i gilydd i wylio hoff ffilm y fam, a fu farw flwyddyn ynghynt. ‘Jurassic Park’ Spielberg yw’r ffilm. Maen nhw’n cael hyd i’r bocs ond dyw’r fideo VHS ddim yno. Yr ateb? Ail-greu prif olygfeydd y ffilm; actorion, deinosoriaid, tywydd. Pob dim. Roedd rhai o’r golygfeydd yn fwy digri na’i gilydd, yr actorion  yn  fywiog, a defnydd da o effeithiau sain a goleuadau. Ambell waith roedd ymwneud uniongyrchol ag aelodau o’r gynulleidfa.

Stori wir oedd sail The Girl Who Jumped Off the Hollywood Sign (Joanne Hartstone). Rydym ar ben yr arwydd ac mae’r actores druan ar fin cyflawni huanladdiad. Cyn gwneud hynny mae’n dwyn i gof ei phlentyndod a’i hymdrechion aflwyddiannus i gael ei derbyn fel actores o bwys yn Hollywood.  Ffilmiau cerddorol oedd ei phrif faes ac mae’n canu caneuon adnabyddus Judy Garland ac eraill. Dyma berfformiad gwirioneddol orchestol oedd yn llawn haeddu’r ganmoliaeth yn y wasg.

Yn Places (Civil Disobedience – Romy Nordlinger) cawsom hanes actores oedd yn llwyddiannus ar y pryd ond prin fod neb yn ei chofio erbyn hyn. O Rwsia y daeth Alla Nazimova i Hollywood a llwyfannau Efrog Newydd yn y 1920au. Roedd ei dull o actio a’i bywyd personol yn destun llawer o drafod ar y pryd, ac yn y ddrama lwyddiannus hon roedd fel petai hi wedi dod nol i roi ei hochr hi o’r stori i ni heddiw. Roedd defnydd da o’r sgrin y tu cefn i’r actores , a’r tebygrwydd rhwng yr actores  a Nazimova yn gwneud gwylio’r ddrama yn brofiad iasoer, braidd, i’r gynulleidfa.

Un o’r profiadau hyrytaf ges i oedd gwylio The Sound of Extras (Drama Queens). Ymunwn a dwy wraig tua’r canol oed yn rhewi mewn pabell yn Alpau Awstria. Maen nhw’n ecstras yn y ffilm ‘The Sound of Music’ ac yn  aros am arwydd fod y bws wedi cyrraedd i fynd a nhw i’r lleoliad nesaf. Mae’n amlwg eu bod yn gyfeillion oes  sy’n dechrau mynd ar nerfau’i gilydd. Mae eu sgwrsio yn naturiol braf a’r ddwy yn cyfeirio at brif actorion y ffilm fel  pe baent yn gyfeillion mynwesol. Yna mae’r bws ar fin cyrraedd ac un o’r gwragedd yn mynd allan i baratoi.  Mae’r llall yn disgwyl, mae un o ganeuon y ffilm yn dechrau chwarae ac mae’r wraig sydd ar ol yn meimio’n ogoneddus. Dim rhyfedd bod y gynulleidfa wedi bloeddio eu cymeradwyaeth ar y diwedd.

Yn Mr Laurel and Mr Hardy (Searchlight Theatre), cawn olwg ar y ddau actor yn yr 1950au pan oedden nhw’n teithio o gwmpas Iwerddon, Prydain a gweddill Ewrop yn ymddangos mewn theatrau. Roedd dau actor y ddrama hon yn portreadu dau ddyn oedd yn gweithio  tu ol i’r llenni mewn theatr ym Manceinion a hefyd yn portreadu Laurel a Hardy, gan gynnwys Hardy fel canwr medrus. Roedd y ddrama hyfryd hon yn gyforiog o gariad tuag at y ddau athrylith.

(I Could Go On Singing) Over the Rainbow (F K Alexander). Cyn i ni fynd i mewn i’r perfformiad rhyfedd hwn cawsom gynnig plygiau clust gan y dyn wrth y drws. Roedd y swn electronig eisoes yn fyddarol y tu allan i’r stafel l fach mewn seler. Ar ganol y llawr roedd croes wedi ei phaentio  Petai aelodau unigol o’r gynulleidfa yn sefyll yno byddai’r gantores yn dod atynt yn ei gwisg ddu a’i sgidiau coch ac yn canu ‘Over the Rainbow’. Bob tro roedd hi’n canu yn yr un ffordd a chyda’r un ystumiau ac roedd ei chanu byddarol hi yn ychwanegol at y swn byddarol  oedd heb ballu o gwbl. Wrth iddi ganu’r nodyn olaf yn y gan roedd goleuadau strob  yn ddigon i’ch dallu. Rhyfedd yn wir.

Roedd Reeling (American High School Theatre) yn wahanol i’r hyn roeddwn wedi’i ddisgwyl. Nid canu a dawnsio Albanaidd gawson ni ond ymdrech gan y disgyblion ysgol hyn o North Dakota i gyfleu ar y llwyfan gynnwys a naws y comediau a ddaeth o Hollywood yn y cyfnod cyn sain. Roedd y prif fachgen  yn dalentog iawn a’r gerddoiriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig i’r cynhyrchiad hwn yn efelychiad  llwyddiannus o’r cyfeiliant a ddarparwyd ar y piano yn y dyddiau hynny. Ar y diwedd roedd defnydd dyfeisgar o ffilm a dynnwyd ymlaen llaw gyda’r un actorion.

Died Blondes. Mae’r awdures Joan Ellis wedi gwneud astudiaeth drylwyr o fywyd a marwolaeth Ruth Ellis a Marilyn Monroe. Ruth Ellis oedd y ddynes olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain. Yr hyn wnaeth Joan Ellis oedd dychmygu, ysgrifennu a pherfformio llythyr olaf  Ruth Ellis. Mae yn ei chell a diwrnod y crogi yn agosau. Mae’n ysgrifennu at y dyn a lofruddiwyd ganddi. Yn ail ran y cyflwyniad cawn fersiwn yr awdur o alwad ffon olaf Marilyn Monroe, yn y munudau olaf cyn ei marwolaeth. Dyw hi ddim yn sgwrsio a neb ond, yn hytrach, yn gadael neges hir ar ffon ei chyn-wr, Joe Dimaggio. Dyma berfformiad grymus a dirdynnol a’r gynulleidfa yn gwrthfawrogi hynny.

Comedi ysgafn oedd y perfformiad olaf welais i, sef Size Matters (LIP Theatre). Mae dau actor hunan-dybus yn cystadlu am yr un rhan mewn drama. Mae un ohoynt yn honni iddo ennill Oscar rywdro yn y gorffennol ond does neb yn ei gredu. Sut mae cael gwared ar yr actor arall? Dyna yw sylfaen y stor  ac mae sawl ymdrech yn methu cyn y ‘ddamwain’ ffodus ar y diwedd. A’r teitl? Dyw actorion  mawr ddim yn hoffi  derbyn rhannau bach. Ysty r arall? Wel. am eiliad, fe gawsom y fraint amheus o weld un o’r actorion yn ei drons, Ddyweda i ddim rhagor!

Philip Wyn Jones

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×