Lleoliad: Blwch Golau
Dyddiad: dydd Iau 7 Gorffennaf - dydd Sul 2 Hydref

NEGES BWYSIG

You can enjoy the content we have for this event but you can no longer book online for this event.

Nicholas Pope: Ten Big Words

Blwch Golau

Mae 'Ten Big Words - lie kill love steal envy rest cheat fear obey honour', yn rhan o ‘Sticky Intimacy’, arddangosfa grŵp sy'n cynnwys gwaith gan Katie Cuddon, Emma Hart a Nicholas Pope.

Graddiodd Nicholas Pope o Academi Gelfyddyd Caerfaddon yn 1973. Cynrychiolodd Brydain yn Biennale Fenis a chymerodd ran yn 'British Art Now, An American Persbective' yn Amgueddfa Guggenheim, a deithiodd ledled America (y ddwy arddangosfa yn 1980). Yn 1996, dangosodd ei waith 'Apostles Speaking in Tongues' yn Tate Britain, ac fe ail-ddangoswyd hwnnw yn ddiweddar yn Eglwys Gadeiriol Salisbury (2014). Yn 2013, cynhaliwyd arddangosfa unigol o'i waith yng Nghanolfan Celfyddyd Newydd Parc Cerfluniaeth Roche Court, Salisbury. Hefyd yn 2013, cyhoeddwyd Ridinghouse, monograff sylweddol am yr artist. Cafodd gwaith Pope ei gynnwys yn arddangosfa 'United Enemies: The Problem of Sculpture in Britain in the 1960s and 1970s' yn Sefydliad Henry Moore, Leeds, y DG (2011). Mae ei waith yn rhan o nifer o gasgliadau cyhoeddus gan gynnwys Casgliad y Cyngor Celfyddydau, Amgueddfa Muller Kroller, Amgueddfa Solomon R Guggenheim, Amgueddfa Stedelijk, y Tate, Oriel Gelf Wakefield ac Oriel Gelf Walker.

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×