Will Roberts - Technegydd

I roi disgrifiad byr o fy ngwaith fel technegydd, dw i'n trefnu sioeau theatr ac yn hongian neu'n adeilad gweithiau celfyddydol ar ran artistiaid, yn yr oriel ac oddi ar y brif safle.

Pan nad ydw i'n rhy brysur â'r holl dasgau hyn, dw i'n ceisio mynd i fy stiwdio er mwyn gwneud ychydig o fy ngwaith celfyddydol fy hun. A phan nad ydw i'n brysur yn gwneud pob un o'r pethau hynny, dw i'n ceisio gyrru i'r arfordir yn fy fan i syrffio. Dw i ddim, fodd bynnag, yn rhy brysur i dyfu barf.

Dywedwch gyfrinach wrthym

Alla' i ddim mo'u cadw nhw.

Dywedwch jôc wrthym

Mae artist yn gofyn i berchennog oriel a oes yna lawer o ddiddordeb yn y peintiadau sydd ganddo yn yr oriel. "Wel, mae gen i newyddion da a newyddion drwg," meddai'r perchennog. "Y newyddion da yw bod yna ddyn sydd newydd holi am eich gwaith ac a ofynnodd i fi a fyddai'n werth mwy ar ôl i chi farw. Pan ddywedais y byddai, fy brynodd e 15 o'ch lluniau."

"Ond mae hynny'n grêt," meddai'r artist.

"Beth yw'r newyddion drwg?"  "Eich doctor oedd y prynwr." 

will.roberts@chapter.org

Newyddion Chapter

  • e-amserlen Chapter

    Cofrestrwch i dderbyn yr e-amserlen wythnosol.

    More info

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×