Beryl Productions International - Animeiddio
Mae Beryl Productions International wedi bodoli ers 20 mlynedd ac yn arbenigo mewn animeiddio cymeriadau unigol â llaw. Maent wedi cynhyrchu hysbysebion teledu ar gyfer marchnadoedd Gogledd America, Mecsico ac Ewrop. Mae eu cleientiaid yn cynnwys Procter & Gamble, Coca Cola ac United Airlines ac maent wedi cwblhau ymgyrchoedd nodedig ar ran Charmin a bwyd cath Whiskas.
Yn ogystal â chynhyrchu hysbysebion, mae gan Beryl bortffolio trawiadol o waith personol a chomisiynau sy'n cynnwys y ffilmiau byrion 'Girls' Night Out', 'Body Beautiful', 'Britannia', 'Famous Fred', 'Elles', 'The Wife of Bath '(Canterbury Tales) a 'Dreams & Desires - Family Ties'.
Mae Beryl Productions yn eiddo i Joanna Quinn ac mae gwaith y cwmni'n seiliedig ar ei doniau darlunio, animeiddio a chyfarwyddo helaeth hi, ynghyd â sgiliau cynhyrchu a chysyniadol Les Mills. Mae eu ffilmiau a'u hysbysebion wedi ennill dros 90 o wobrau rhyngwladol gan gynnwys 3 Emmy, 2 Bafta, 2 enwebiad Oscar a 6 Grand Prix.
44 (0)29 20 226 225
Website