Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Preifatrwydd

  • CY
  • Preifatrwydd

Preifatrwydd

Privacy Notice

Diweddarwyd Ebrill 2021

Yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae dyletswydd gyfreithiol arnom ni i ddiogelu unrhyw ddata personol rydym yn ei gasglu gennych, i fod yn eglur am y dibenion rydym yn ei ddefnyddio a'i gwneud yn haws i chi ddewis peidio â derbyn gohebiaeth gennym ar unrhyw adeg. Yn y cyd-destun hwn, mae data personol yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth y mae modd adnabod unigolyn ohoni, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Mae'r dudalen hon yn egluro sut rydym yn diogelu a pharchu'r data rydym yn ei gasglu gennych chi.

Pynciau:

  • Gwybodaeth pwy fyddwn ni’n casglu?
  • Pa ddata personol ydyn ni'n ei gasglu amdanoch?
  • Syt byddwn ni'n defnyddio eich data personol?
    • COVID-9 – Test and Trace
    • Chapter Marketing/Fundraising
  • Mynediad at eich data personol a'i gywiro
  • Encryption on payment processing
  • Transferring of information out of the EEA
  • Cwcis
  • Gwefannau eraill
  • Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
  • Sut i gysylltu â ni

 

Gwybodaeth pwy fyddwn ni’n casglu

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol am y categorïau o bobl isod.

  • Aelodau’r gynulleidfa;
  • Mynychwyr y Caffi Bar;
  • Ymwelwyr â’r Oriel;
  • Rhai sydd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu;
  • Rhai sy’n cymryd rhan mewn arolygon cwsmeriaid a ffurflenni adborth;
  • Llogwyr / Tenantiaid gofodau yn ein adeilad;
  • Cefnogwyr  – Cyfeillion, Cyfrannwyr;
  • Rhan-ddeiliaid eraill.

 

Pa ddata personol fyddwn ni’n casglu amdanoch chi?

Gan ddibynnu pa weithgaredd fyddwn chi’n ymwneud ag e yn Chapter fe allwn gasglu peth neu’r holl wybodaeth ganlynol:

  • Bywgraffyddol – enw, teitl, cyfenw blaenorol, dyddiad geni neu oedran, rhywedd, ethnigrwydd, ffydd neu wybodaeth sy’n dangos eich statws sosio-economaidd;
  • Manylion cyswllt – cyfeiriad post, cyfeiriad ebost, rhif ffôn;
  • Gofynion mynediad;
  • Cofnod o gyfraniadau neu daliadau (mae manylion taliadau am docynnau, bwyd a diod neu gyfraniadau rheolaidd yn cael eu rheoli drwy drydydd parti – mae manylion cyfrif banc yn cael eu cadw dim ond ar gyfer prosesu debyd uniongyrchol ac mae’r manylion yn cael eu cadw ar weinydd diogel);
  • Presennoldeb mewn digwyddiadau a phresennoldeb mewn mannau ar draws yn adeilad (Oriel, Caffi Bar, etc).

Byddwn ni dim ond yn casglu’r wybodaeth hon pan fo rheswm dilys i wneud hynny.

 

Sut byddwn ni'n defnyddio eich data personol?

Rydym yn casglu data personol amdanoch chi er mwyn prosesu archebion rydych yn eu gwneud, i'ch galluogi chi i ddefnyddio gwasanaethau Chapter ac i roi gwybod i chi os oes unrhyw newidiadau i'n digwyddiadau neu wasanaethau (er enghraifft newid i amseroedd neu i ganslo digwyddiad yn achlysurol iawn).

Covid 19 – Profi ac Olrhain

Yn sgil  Covid 19 mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar Chapter i gasglu data i gefnogi Profi Ac Olrhain y GIG a pan fyddwch yn ymweld â Chapter fe fydd gofyn i chi roi eich enw a manylion cyswllt drwy ddefnyddio naill ai:

NEU

  • Yn syth i Chapter drwy ein system docynnau (Spektrix) neu ein system archebu bwrdd yn y Caffi Bar (Resdiary).

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar Chapter i gadw cofnodion am 21 diwrnod. Bydd cofnodion yn cael eu storio ar y system sy’n berthnasol i’ch defnydd o Chapter (drwy tocynnau, caffi bar etc). Mae hyn yn adlewyrchu cyfnod heintus Covid 19 (all fod hyd at 14 diwrnod)  a 7 diwrnod ychwanegol ar gyfer caniatáu amser ar gyfer profi ac olrhain. Ar ôl y 21 diwrnod bydd y wybodaeth yn cael ei waredu neu ei ddileu yn ddiogel. Bydd hyn yn cael ei wneud mewn ffordd na fydd yn peri risg i fynediad anfwriadol  (er enghraifft darnio dogfennau papur a sicrhau bod ffeiliau electronig wedi’u dileu yn barhaol).

Os byddwch yn rhoi eich manylion i  Chapter, bydd y canlynol yn digwydd.

 

Marchnata/Codi Arian Chapter

Fe fyddwn ni hefyd yn casglu data personol oddi wrthoch chi, os ydych chi’n cytuno, er mwyn i ni ebostio manylion atoch chi am ddigwyddiadau neu wasanaethau eraill gan Chapter allai fod o ddiddordeb i chi. Fe fyddem ni hefyd yn hoffi cysylltu â chi o bryd i’w gilydd am ein gweithgareddau codi arian. Fe fyddwn ni dim ond yn gwneud hyn os ydych chi wedi cytuno adeg y cyswllt cyntaf. Os ydych wedi cytuno i dderbyn gwybodaeth marchnata neu godi arian fe allwch optio allan yn ddiweddarach. Fe fyddwch chi hefyd yn cael cyfle i optio allan bob tro y byddwn ni’n cysylltu â chi. Os oes gyda chi gyfrif arlein fe allwch fewngofnodi unrhyw bryd a diweddaru eich dewisiadau.  

Defnyddir data personol a ddarparwyd yn wirfoddol drwy arolygon cwsmeriaid a ffurflenni adborth i lywio cynlluniau rhaglenni yn y dyfodol a gwella gwasanaethau. Caiff hefyd ei rannu â rhanddeiliaid o dro i dro, ac mae weithiau'n ofynnol fel amod gan gyllidwyr. O dan yr amgylchiadau hyn, mae'r holl ddata yn ddi-enw, ac ni rennir unrhyw ddata y gellir adnabod unigolyn ohono. Pan gynhelir cystadleuaeth, cesglir data personol at y diben penodol hwnnw a'i ddinistrio ar ôl i'r gystadleuaeth ddod i ben.

Os ydych yn rhoi caniatâd, byddwn yn defnyddio eich data personol i roi gwybod i chi am weithgareddau Codi Arian a gweithgareddau dewisol eraill y mae Chapter yn rhan ohonynt. O bryd i’w gilydd mae Chapter yn ymwneud â thrydydd parti ar gyfer ymgyrchoedd codi arian ac i brosesu cyfraniadau e.e. Charities Aid Foundation, Facebook, Paypal etc. Fe fydd Chapter wastad yn ei gwneud yn glir ein bod yn defnyddio trydydd parti, a bryd hynny fe fydd polisi preifatrwydd y trydydd parti yn berthnasol. Mae Chapter dim ond yn ymwneud â chwmniau sy’n gweithredu polisïau preifatrwydd cadarn.

Ni fyddwn yn rhannu eich data personol â chwmnïau allanol heblaw'r rheini a ddewiswyd i brosesu manylion ein cwsmeriaid at ddibenion gwerthu tocynnau (Spektrix), hurio ystafelloedd (Artifax), a gwerthu yn y caffi bar (Tevalis a Onvi). Mae gennym drefniadau cytundebol ar waith â'r sefydliadau hyn i sicrhau bod eich data yn ddiogel ac wedi'i ddiogelu ar bob adeg. Dylid gwneud ceisiadau i dynnu'r wybodaeth hon o'r systemau hyn yn uniongyrchol i Chapter.

Mae ein cyflenwyr sydd â threfniadau cytundebol yn cynnwys:

Cyflenwr Gweithrediad
Spektrix Prosesu pryniannau tocynnau a chynhyrchion
Artifax Prosesu huriadau ystafelloedd a swyddfeydd
Dot Digital Ynghyd â Spektrix i anfon newyddlenni a chadw mewn cysylltiad drwy ebost.
Tevalis           Prosesu trafodion y Caffi-Bar
Onvi

Prosesu trafodion y Caffi-Bar arlein

Breathe System Adnoddau Dynol i gofnodi gwyliau a salwch cyflogeion Chapter
Sage Prosesu anfonebau
RotaReady System rota sy’n cofnodi manylion cyswllt staff a manylion cyflogau
Res Dairy Prosesu archebion bwrdd y Caffi-Bar – efallai bydd angen manylion cerdyn credyd ar rai archebion.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Ni fydd Chapter yn rhannu eich data personol â chwmnïau allanol at ddibenion masnachol.

Rydym yn defnyddio Cwcis ar ein gwefan i’n caniatáu i weld sut mae’n wefan yn cael ei defnyddio ac i wella ein gwasanaethau i chi. Does dim o’r wybodaeth hon yn golygu eich bod yn cael eich adnabod yn bersonol. Am ragor o wybodaeth gweler isod.

 

Mynediad at eich data personol a'i gywiro

Mae gennych hawl i weld y data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi. Os hoffech gopi o'r data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi, anfonwch e-bost neu lythyr i d/o Y Rheolwr Marchnata, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd, CF5 1QE.

Rydym eisiau sicrhau bod eich data personol yn gywir ac yn gyfredol. Gallwch ofyn i ni gywiro neu dynnu data rydych yn credu sy'n anghywir drwy gysylltu â ni drwy'r cyfeiriad uchod, drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400 neu drwy anfon e-bost i enquiry@chapter.org

 

Amgryptiad ar brosesu taliadau

Mae eich manylion talu yn cael eu prosesu gan Haenen Socedi Diogel - Secure Sockets Layer (SSL) a ddefnyddir gan borwyr gwe a gweinyddion gwe i helpu defnyddwyr i ddiogelu eu data yn ystod trosglwyddiad. Mae Tystysgrif  SSL yn cynnwys pâr o allweddi cyhoeddus a phreifat ynghyd â gwybodaeth adnabod wedi’i wirio.  Pan fo porwr (neu gleient) yn pwyntio tuag at barth diogel mae’n rhannu’r allwedd gyhoeddus gyda’r cleient er mwyn sefydlu dull amgryptio ac allwedd sesiwn unigryw. Mae’r cleient yn cadarnhau ei fod yn adnabod ac ymddiried yn yr un sy’n cyhoeddi’r Dystysgrif SSL. Enw’r broses hon yw’r “Ysgwyd Llaw SSL” (‘SSL handshake’) a gall ddechrau sesiwn ddiogel sy’n diogelu preifatrwydd neges a chywirdeb y neges.

 

Trosglwyddo data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA)

Mae’n bosibl y bydd y data y byddwn ni’n ei gasglu oddi wrthoch chi yn cael ei drosglwyddo y tu allan i, ac yn cael ei storio mewn lleoliad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Mae’n bosibl hefyd yn bydd yn cael ei brosesu gan staff sy’n gweithio y tu allan i’r EEA sy’n gweithio i ni neu i un o’n cyflenwyr. Fe allai’r fath staff fod yn ymwneud ag, ymhlith pethau eraill, darparu eich archeb, prosesu eich manylion talu a darparu gwasanaethau cefnogol. Wrth gyflwyno eich data personol rydych yn cytuno i’r trosglwyddiad, storio a phrosesu hyn. Fe fyddwn yn gwneud popeth gallwn ni o fewn rheswm i sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn ôl y polisi preifatrwydd hwn.

Mae’r holl wybodaeth byddwch chi yn ei roi i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel. Fe fydd unrhyw drafodion taliadau yn cael eu amgryptio yn ystod y daith gan ddefnyddio amgryptio TLS 1.2. Pan fyddwn ni wedi rhoi i chi (neu lle fyddwch chi wedi dewis) cyfrinair i’ch galluogi i gael mynediad at rannau o’r wefan, chi sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio rhannu’r cyfrinair gydag unrhyw un.

Yn anffodus nid yw’r rhyngrwyd neu drosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech rhesymol i ddiogelu eich data personol a gwahardd unrhyw fynediad heb ei awdurdodi drwy ei storio ar weinydd diogel, sydd wedi ei amddiffyn gan gyfrinair, ac wedi cuddio o’r byd y tu allan y tu ôl i wal dan, ni allwn roi gwarant am ddiogelwch eich data sy’n cael ei drosglwyddo ar ein gwefan: mae unrhyw drosglwyddo ar eich risg eich hun.

Bydd negeseuon sy’n cael eu hanfon i ni drwy ein system Docynnau yn cael eu storio o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ar weinyddion ein darparwr ebost.

Ein trydydd parti neu darparwr ebost yw Microsoft Office 365. Mae eu polisi preifatrwydd nhw ar gael yma:  https://products.office.com/en-gb/business/office-365-trust-center-welcome

 

Cwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy'n cael eu storio gan eich porwr gwe (e.e. Internet Explorer, Chrome, Safari, Firefox) ar eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn symudol i wella ymarferoldeb gwefan (ar gyfer storio dewisiadau defnyddwyr).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org

Sut mae gwefan Chapter yn defnyddio cwcis?

Mae gwefan Chapter yn defnyddio cwci i gofnodi a yw porwr defnyddiwr wedi'i alluogi i ddefnyddio JavaScript, teclyn cyffredin ar wefannau a ddefnyddir ar gyfer darparu rhyngweithioldeb megis animeiddio elfennau o dudalen e.e. eu pylu i mewn ac allan. Baner syml ie/na yw'r cwci, ac nid yw'n cynnwys data personol. Mae ein gwefan yn defnyddio Google Analytics hefyd. Teclyn yw Google Analytics sy'n galluogi dadansoddi ymddygiad defnyddwyr ar wefan, er mwyn helpu perchennog y wefan i ddarparu'r profiad defnyddiwr gorau. Mae Google Analytics yn cynhyrchu cwcis sy'n nodi a ydych chi wedi ymweld â'r wefan o'r blaen, pa dudalennau rydych chi'n ymweld â nhw ac ati. Ni ellir defnyddio'r cwcis hyn i adnabod unigolion; cânt eu defnyddio at ddibenion ystadegol yn unig ac nid yw'r data'n dangos gwybodaeth gyfrinachol. Dim ond perchennog y wefan, darparwr y wefan, sef 21st Century Web Design, a'r tîm perthnasol yn Google sy'n gallu gweld y data ei hun.

Mae'r wefan hon yn cynnwys gallu i ryngweithio â gwefannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter, Disqus ac mae'n defnyddio gwasanaethau Share This sy'n caniatáu rhyngweithio ag ystod eang o wefannau cyfryngau cymdeithasol trydydd parti. Dylech fod yn ymwybodol y gall y gwefannau hynny osod cwcis hefyd wrth i chi ddefnyddio'r wefan hon i wella ymarferoldeb. Nid yw Chapter yn gyfrifol am y cwcis trydydd parti hyn ac mae gennych ddewis i beidio â'u galluogi, er y gall hyn effeithio ar ymarferoldeb y wefan. I gael rhagor o fanylion, dylech wirio polisïau preifatrwydd y gwasanaethau unigol dan sylw.

Mae cynnwys fideo/sain o You Tube neu Vimeo ar y wefan hon. Dylech fod yn ymwybodol y gall y gwefannau hynny osod cwcis wrth i chi ddefnyddio'r wefan hon er mwyn gwella ymarferoldeb y wefan. Nid yw Chapter yn gyfrifol am y cwcis trydydd parti hyn ac mae gennych ddewis i beidio â'u galluogi, er y gall hyn effeithio ar ymarferoldeb y wefan. I gael rhagor o fanylion, dylech wirio polisïau preifatrwydd y gwasanaethau unigol dan sylw.

O ran gwefan Chapter ei hun, gallwch gyfyngu neu atal y cwcis a ddefnyddir gan y wefan drwy osodiadau eich porwr, ond bydd hyn yn effeithio ar brofiad y defnyddiwr. Dylai'r teclyn 'Cymorth' yn eich porwr esbonio sut i wneud hynny.

Gwerthiannau Tocynnau Spektrix

Rydym yn defnyddio cymysgedd o gwcis hanfodol a chwcis nad ydynt yn hanfodol fel rhan o'r broses archebu er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl.

Cwcis hanfodol

Er mwyn cadw golwg ar eich archeb, mae'n hanfodol ein bod yn storio "cwci sesiwn" ar eich cyfrifiadur. Bydd y cwci hwn yn para 24 awr.

Cwci sy'n cael ei ddileu pan mae'r defnyddiwr yn cau'r porwr gwe yw cwci sesiwn. Caiff y cwci sesiwn ei storio mewn cof dros dro, ac ni chaiff ei gadw ar ôl cau'r porwr. Nid yw cwcis sesiwn yn casglu gwybodaeth o gyfrifiadur y defnyddiwr.

Cwcis nad ydynt yn hanfodol

Rydym yn defnyddio rhai cwcis nad ydynt yn hanfodol i addasu eich profiad archebu a'i wneud yn haws ac yn fwy hwylus i chi. Defnyddir y cwcis ychwanegol hyn i storio pethau megis eich manylion mewngofnodi, fel bod modd mewngofnodi'n awtomatig bob tro rydych yn ymweld â'n gwefan.

Cyn storio'r cwcis hyn am y tro cyntaf, byddwn yn eich rhybuddio ac yn gofyn am eich caniatâd cyn parhau. Os nad ydych yn dymuno storio'r cwcis hyn, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r nodwedd penodol hwnnw, ond bydd gweddill y wefan yn parhau i weithio'n iawn.

Gwefannau eraill

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau eraill. Dim ond i'r wefan hon y mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol iddo, felly pan rydych yn dilyn dolen i wefannau eraill, dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd nhw.

 

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd, a byddwn yn nodi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 16 Chwefror 2018.

 

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein polisi preifatrwydd neu am y data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi:

drwy e-bostio – enquiry@chapter.org

drwy ffonio – 029 2030 4400

drwy'r post – d/o Y Rheolwr Marchnata, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd, CF5 1QE

Preifatrwydd