Cyd-wylio a Thrafodaethau Holi ac Ateb gyda Reframed Film
Mae cyd-wylio'n ffordd wych i ni gael bod gyda'n gilydd er ein bod ni ar wahân! Bob nos Fercher, ymunwch â ni i wylio ffilm gyda'n gilydd ar-lein.
Cyd-wyliwch gyda @ReframedFilm ar Twitter o 7pm ymlaen. Bydd y ffilmiau ar gael ar lwyfannau ffrydio amrywiol.
Ar ôl y ffilm, ymunwch â thrafodaethau holi ac ateb ar Zoom. Er mwyn cael dolen i'r alwad Zoom, cofrestrwch eich diddordeb ac archebwch docyn am ddim. Ar ôl archebu, bydd y manylion Zoom yn cael eu hanfon atoch. Cofiwch edrych yn eich ffolder sbam/sothach. Os oes gennych ymholiadau, anfonwch e-bost at ticketing@chapter.org