Gŵyl Ffilmiau SAFAR: The Stories We Tell in Arab Cinema
1-16 Gorffennaf 2022
Gŵyl Ffilmiau SAFAR yw’r unig ŵyl ym Mhrydain sy’n ymroddedig i waith sinema o’r byd Arabaidd. Fe’i sefydlwyd yn 2012, ac mae SAFAR yn cynnig lle unigryw i gynulleidfaoedd allu archwilio a dathlu gorffennol, presennol a dyfodol sinema Arabaidd.
Mae gŵyl 2022 yn garreg filltir bwysig i’r ŵyl. Mae SAFAR yn dathlu ei deng mlwyddiant fel rhaglen flynyddol, ac am y tro cyntaf mae’n ehangu i arddangos mewn saith dinas arall ym Mhrydain, ochr yn ochr â’r brif ŵyl yn Llundain.