BFI Art of Action

Yn ystod tymor yr hydref eleni, rydyn ni’n archwilio byd cymhleth a chyffrous menywod yn y genre Cyffro.

O fentrwyr sinema fud gynnar, campau cic-uchel Michelle Yeoh, breichiau cyhyrog Sigourney Weaver fel Ripley, sinema nawdegau gwrthdroadol Kathryn Bigelow, i ffyrnigrwydd brenhinol Viola Davis a phryder arddegau’r chwiorydd Khan yn Polite Society; rydyn ni’n cymryd ystrydebau rhywedd ac yn gwthio’n ôl yn galed!

Dyma sinema hwyliog a heriol a fydd yn codi curiad eich calon ac yn gwneud i chi ddyheu am gael neidio i’r sinema.

Digwyddiadau

Filter events by date

Seasons

Accessibility