
- Digwyddiadau
We Stand With You – arddangosfa
Mae Common/Wealth yn dod â’r artistiaid Ophelia Dos Santos, Kyle Legall, Vanja Garaj, Gavin Porter, a Jon Pountney ynghyd ar gyfer arddangosfa newydd.
Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.
Bydd rhaglen bedwar diwrnod o sgyrsiau, gweithdai a pherfformiadau wedi’i churadu gan Common/Wealth, mewn ymateb i Grenfell gan Steve McQueen, yn mynd i’r afael â’r frwydr dros gyfiawnder i Grenfell a phwysigrwydd ymgyrchu cymunedol.
Bydd rhaglen bedwar diwrnod o sgyrsiau, gweithdai a pherfformiadau wedi’i churadu gan Common/Wealth, mewn ymateb i Grenfell gan Steve McQueen, yn mynd i’r afael â’r frwydr dros gyfiawnder i Grenfell a phwysigrwydd ymgyrchu cymunedol.
Ymhlith y digwyddiadau, bydd trafodaeth rhwng goroeswyr a’r rhai mewn profedigaeth yn dilyn Grenfell ac Aberfan, yn ogystal ag ymgyrchydd cymunedol o Butetown, Caerdydd. Yn cadeirio bydd Peter Apps, awdur Show Me the Bodies: How We Let the Grenfell Tower Fire Happen.
Bydd Forensic Architecture yn dangos Situated Testimonies of Grenfell, ffilm sy’n plethu straeon rhyng-gysylltiedig o noson y tân, o safbwynt y goroeswyr, teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau, a llygad-dystion. I ddilyn y dangosiad bydd trafodaeth rhwng Edward Daffarn o Grenfell United a Samaneh Moafi o Forensic Architecture.
Yn yr oriel, bydd gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan Gaerdydd a’i chymunedau i’w gweld. Ymhlith yr artistiaid mae Ophelia Dos Santos, Kyle Legall, Vanja Garaj, Gavin Porter a Jon Pountney. Gan ymateb i thema cymuned, mae’r gwaith yma’n ysbrydoli cryfder ac undod yn y frwydr dros gyfiawnder cymdeithasol.
Mae Common/Wealth yn dod â’r artistiaid Ophelia Dos Santos, Kyle Legall, Vanja Garaj, Gavin Porter, a Jon Pountney ynghyd ar gyfer arddangosfa newydd.
Sut mae cofio’r trais sydd wedi’n dryllio ni? Yn y gweithdy yma, rydyn ni’n archwilio sut mae atgofion o ddigwyddiadau trawmatig yn aml yn dameidiog, yn ynysig, ac yn cael eu gadael i'r unigolyn eu cario.
Bydd Forensic Architecture (FA), asiantaeth ymchwil sydd wedi'i lleoli yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, yn dangos dwy ffilm sy'n rhan o'u hymchwiliad ehangach i'r digwyddiadau’n ymwneud â’r tân.
Leanne Wood and Beth Winter have held a series of community assemblies in the valleys.
Ymunwch â Common/Wealth a’u cyfeillion yn yr oriel ar gyfer lansiad ein harddangosfa, sy'n cynnwys gwaith celf o Gaerdydd gan artistiaid fel Ophelia Dos Santos, Kyle Legall, Vanja Garaj, Gavin Porter a Jon Pountney.
Come and join ACORN Cardiff and their organiser, Dan, for a 'Fighting Housing Injustice' workshop.
Yn y sesiwn yma sy’n ysgogi’r meddwl, mae Nabil Al-Kinani, awdur o dras Prydeinig-Iracaidd sy’n gweithio ym maes yr amgylchedd adeiledig, yn eich gwahodd i archwiliad dwfn a beirniadol o foneddigeiddio a’i effaith ddinistriol ar ystadau tai cymdeithasol.
Mae Pwytho dros Ymgyrchu Cymunedol yn weithdy brodwaith ymarferol dan arweiniad yr artist a’r ymchwilydd tecstilau o Gymru, Ophelia Dos Santos.
Newyddiadurwr a dirprwy olygydd yn Inside Housing yw Peter Apps – a dorrodd stori ar beryglon cladin fflamadwy 34 diwrnod cyn Tân Grenfell. Bydd Peter yn ymuno â ni yng Nghaerdydd i drafod ei lyfr, Show Me The Bodies: How We Let Grenfell Happen.
Ymunwch â ni mewn digwyddiad arbennig, a fydd yn dod ag aelodau o gymunedau Grenfell, Aberfan a Butetown ynghyd.