
- Ffilm
Watch Africa Festival 2025: Memories of Love Returned (adv12A)
Mae cyfarfyddiad annisgwyl yn arwain at ddarganfod trysorfa o ffotograffau portread.
Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.
Mae Gŵyl Ffilmiau Watch Africa ’nôl! — ac eleni, rydyn ni’n rhoi tro newydd ar bethau gyda thema “Ail-addysg ar Sinema Affricanaidd.”
Mae’n bryd ailystyried y ffordd mae straeon Affricanaidd yn cael eu hadrodd. Ers yn llawer rhy hir, mae’r naratif wedi cael ei siapio o’r tu allan — nawr, rydyn ni’n rhoi’r meicroffon yn ôl i’r cyfandir.
Ymunwch â ni ar gyfer cymysgedd bywiog o ddangosiadau ffilm, trafodaethau panel gonest, adloniant byw, a gwobrau sy’n dathlu lleisiau go iawn sinema Affrica. Cyfle i ddad-ddysgu’r mythau, gweld yr harddwch a’r cymhlethdod, ac ailgysylltu â straeon sy’n wirioneddol bwysig.
Dewch i fod yn rhan o’r newid — mae’n fwy na gŵyl, mae’n ailddeffroad.
Mae cyfarfyddiad annisgwyl yn arwain at ddarganfod trysorfa o ffotograffau portread.
Mae mab menyw’n dychwelyd o’r rhyfel, ond nid yw pethau fel maen nhw’n ymddangos.
Ffilm ddogfen am y tensiynau parhaus ar dir cadwraeth Kenya.
An inquisitive and dreamlike documentary about plundered artefacts headed back to Benin.
Ar ôl i’w dad gamblo’i enaid i wrach, mae Abila’n rasio yn erbyn y cloc i’w achub.
Mae merch ifanc mewn tref arfordirol yn breuddwydio am gael bod yn actores yn y ddrama ddod-i-oed yma.
Mae disgynyddion arweinydd gwrthsafiad y Majimaji yn ceisio dychwelyd ei weddillion.