Seasons

    • Tymhorau

    Sefydliad Japan 2025

    Mae Taith Sefydliad Japan yn dychwelyd unwaith eto eleni gydag wythnos o ffilmiau’n arddangos y gorau o fyd ffilmiau Japan. O ddramâu sy’n torri tabŵ, a chomedïau deallus, i ffilmiau cyffro dwys a chaslur o’r oes aur. Eleni rydyn ni’n croesawu gwestai arbennig, Akihiro Toda, sydd wedi addasu ei drama glodwiw Ichiko yn berfformiad syfrdanol, gyda Hana Sugisaki yn serennu. Bachwch ar y cyfle prin yma i weld casgliad anhygoel o ffilmiau ar y sgrin fawr, nad ydyn nhw ar gael yn unman arall.

    • Tymhorau

    BFI Art of Action

    Yn ystod tymor yr hydref eleni, rydyn ni’n archwilio byd cymhleth a chyffrous menywod yn y genre Cyffro. O fentrwyr sinema fud gynnar, campau cic-uchel Michelle Yeoh, breichiau cyhyrog Sigourney Weaver fel Ripley, sinema nawdegau gwrthdroadol Kathryn Bigelow, i ffyrnigrwydd brenhinol Viola Davis a phryder arddegau’r chwiorydd Khan yn Polite Society; rydyn ni’n cymryd ystrydebau rhywedd ac yn gwthio’n ôl yn galed! Dyma sinema hwyliog a heriol a fydd yn codi curiad eich calon ac yn gwneud i chi ddyheu am gael neidio i’r sinema.