
Wyt ti’n fyfyriwr, yn animeiddio yn dy amser sbâr, neu’n animeiddiwr proffesiynol am ddangos gwaith newydd i artistiaid ac animeiddwyr profiadol? Wyt ti am fachu ar gyfle i fireinio dy sgiliau beirniadol drwy roi cyngor a cherydd adeiladol? Wyt ti’n chwilio am gyfle cyfeillgar i rwydweithio neu’n chwilio am seren newydd dy gwmni animeiddio?
Mae croeso i bawb o bob oed, profiad a disgyblaeth yn ‘Animation Grill’ Cardiff Animation Festival 2020. Dewch â portffolio, demos, llyfrau braslunio, modelau ac ati.