
Gweithdy, Alia Mossallam, Telling like a river
Dydd Sadwrn 1 Hydref, 2pm-5pm, First Space, Chapter
Dydd Sul 2 Hydref, 10am-1pm, First Space, Chapter
Noder: mae hwn yn weithdy dwy ran, archebwch ar gyfer y ddau ddiwrnod.
Beth pe bai hanes mewn gwirionedd yn stori o fewn stori o fewn stori? Yn y gweithdy adrodd straeon yma gydag Alia Mossalam, byddwn yn treulio amser gyda’r archifau amrywiol mae hi’n eu rhannu yn Rawy al-Anhar - ffotograffau, caneuon, hanesion llafar, straeon chwedlonol, archifau personol a gwladychol - i archwilio sut gwrthsafodd pobl Nubia ddadleoliad, a sut gellid ail-ddweud stori drwy ddŵr.
Llun: Kirsten McTernan
Hanesydd diwylliannol, addysgwr ac awdur sy’n byw ym Merlin yw Alia Mossallam. Mae gan Alia ddiddordeb mewn caneuon sy’n adrodd straeon, a straeon sy’n adrodd profiadau pobl y tu ôl i’r digwyddiadau sy’n creu Hanes y Byd. Bu Alia’n addysgu yn Sefydliad Cairo ar gyfer y Gwyddorau a’r Celfyddydau Rhyddfrydol ac yn y Brifysgol Rydd ym Merlin, a hi sefydlodd Weithdai Hanes ‘Ihky ya Tarikh’. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei llyfr cyntaf fel Cymrawd Rhaglen EUME yn y Fforwm Astudiaethau Trawsranbarthol ym Merlin.
Y digwyddiad hwn yw rhan o'r rhaglen gyhoeddus Call the Waves. Arddangosfa grŵp a rhaglen gyhoeddus yw Call the Waves, sy’n archwilio cysylltiadau agos rhyng-gysylltiedig gyda gwahanol gyrff dŵr. Mae Call the Waves yn dod â gwaith newydd ynghyd gan yr artistiaid, y cerddorion, a’r haneswyr Alia Mossallam, Bint Mbareh, Fern Thomas, Kandace Siobhan Walker, Maya Al Khaldi a Noureddine Ezarraf. Mae’r prosiect wedi’i gyd-guradu gan SWAY a QANAT, a gynhelir ar y cyd gan Francesca Masoero, Louise Hobson a Shayma Nader. Ymweliad Call the Waves yn Oriel Chapter dydd Mawrth i ddydd Sul, 11yb - 5yp.
Gwen 20 Hyd 2023 - Sul 25 Chw 2024