Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Rydyn ni ar agor! Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i’ch cadw chi’n ddiogel, gan gynnwys pellter cymdeithasol o 2 fedr, Tracio ac Olrhain, mynediad drwy’r drysau blaen yn unig, a seddi dynodedig yn ein sinemâu a’n theatrau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

EXPERIMENTICA 21: Luis Amalia / / Triple—Double / / (Online Performance)

EXPERIMENTICA 21: Luis Amalia / / Triple - Double / / (Perfformiad ar-lein)

The  / / Triple—Double / / yw’r sgìl gymnasteg anoddaf, a dim ond Simone Biles sy’n gallu ei pherfformio.

Bydd y perfformiwr Luis Amália yn rhoi cynnig ar fersiwn ohoni. 

Mewn profiad digidol aml-haenog sy’n cyfuno perfformiad byw, clipiau o’r archif ac animeiddiadau, mae Triple—Double yn mynd i’r afael â materion amserol am y pwysau mae cymdeithas yn ei roi ar ein cyrff, ac yn agor y drafodaeth am iechyd meddwl mewn chwaraeon.

Fe welwch chi Luis yn ymgorffori Bette Davis a Blanche Dubois, gan berfformio fel gymnastwr ac arddangos ysbryd queer mewn darllediad chwaraeon. 

Mae’n ddoniol, mae’n wallgo, mae’n drydanol!

Mae’r prosiect yma’n arbrawf o’r hyn gallai theatr fod; gan ehangu ar bosibiliadau gwylio digidol, gan gymysgu ffurfiau, gwella cyweithiau artistig, a chynyddu mynediad ar ôl Covid.

+

Y Tîm Creadigol:

Crëwr a Pherfformiwr: Luis Amália / Cyd-awdur a dramatwrg: Adam Zmith / Sinematograffeg: Tonino Petruzzellis Señor / Symudiad Llygad Allanol: Alice Watson / Llygad Allanol: Kace Monney / Arlunio ac Animeiddio: Mathieu Cadelo / Cynllunydd Gofodol: Xavier Bas / Cynllunwyr Digidol: Left Handed Cinema / Cynhyrchydd: Sarah Calver. 

Ariannwyd y gwaith Ymchwil a Datblygu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Grantiau Prosiect y Loteri Genedlaethol, a Gŵyl Experimentica (Chapter).

Cefnogwyd y prosiect yma drwy haelioni Poplar Union a Theatr Camden’s People. 

Lawrllwytho rhaglen EXPERIMENTICA 2021

undefined

Cefnogir EXPERIMENTICA gan Gyngor Celfyddydau Cymru

undefined     undefined

Prisiau:

Please note, this is an online streamed performance available to watch from home

Captioned / Gyda capsiynau

AM DDIM | FREE 

Watch online on Friday 5 November 6pm / Gwylio ar-lein ar Ddydd Gwener 5 Tachwedd 6pm

Tocynnau ac Amseroedd