
Iaith Arwyddion Prydain wedi'i dehongli gan Claire Anderson Iau 15 Mehefin
Trafodaeth ôl-sioe a sesiwn holi ac ateb am 8.50yh ar ôl y ddau perfformiad ar dydd Mercher 14 a Iau 15.
Yn gignoeth, yn obeithiol, yn feiddgar, â saethiadau o lawenydd, mae Bethan yn rhannu ei stori.
Gan ymgorffori rhyddid afieithus a heintus, mae’n defnyddio ei phrofiadau o iacháu o drawma dwfn yn dilyn trais rhywiol a domestig.
Taith ddirdynnol wedi’i hadrodd drwy daflunio ffilm, symudiad, clown a gair llafar. Stori am gwympo i’r tywyllwch, am frwydro’r demoniaid mewnol ac allanol, am godi’n ôl unwaith eto, ac am ailddarganfod y golau.
Cymdeithas y Byd Gorllewinol; peiriant prynwriaeth, patriarchaidd, cyfalafol, sydd ag obsesiwn am ddelwedd. Digwyddiadau dyddiol o drais rhywiol a domestig ar sail rhywedd; Salwch byd-eang. Epidemig byd-eang. Ac eto mae Cymdeithas yn dweud, “Dangosa dy wyneb hardd i ni, a chuddia dy wyneb hyll!”
Felly beth allwn ni ei wneud, pan fydd pethau poenus yn digwydd i ni? Ble allwn ni fynd? I ddarganfod cydnabyddiaeth iach? Pwy fydd yn cydio ynon ni? Yn ein gweld? Yn gwrando arnon ni? Yn ein helpu a’n cefnogi? Sut gallwn ni ail-ysgrifennu ac adennill ein straeon? I ble gawn ni fynd â’n ‘hyll’? I rannu ein poen, ein galar, ein trawma, ein cynddaredd? Fan hyn, ar y llwyfan yma?
SUT MAE BOD YN IACH MEWN BYD SY’N AFIACH? Wedi’i ysgrifennu, ei greu a’i berfformio gan Bethan Dear. Yn gignoeth, yn obeithiol, yn feiddgar, â saethiadau o lawenydd, mae Bethan yn rhannu ei stori. Gan ymgorffori rhyddid afieithus a heintus, mae’n defnyddio ei phrofiadau o iacháu o drawma dwfn yn dilyn trais rhywiol a domestig.