Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Leo Robinson: The Infinity Card Public Preview

Rhagolwg Cyhoeddus Leo Robinson: The Infinity Card

Llun 1 Ion 0001 - Gwen 9 Rhag 2022 , 5 - 8pm

Yr Artist a’r Cerddor Leo Robinson sy’n archwilio adeiladu byd y dyfodol yn The Infinity Card, ei arddangosfa unigol fwyaf yng Nghymru, yn Chapter, Caerdydd.

Ar gyfer ei arddangosfa unigol fawr gyntaf yng Nghymru, mae Leo Robinson yn cyflwyno oraclau, sgorau cerddorol a gwrthrychau sy’n archwilio dyfodol dyfaliadol. Fel rhan o hyn, mae systemau cred newydd ar gyfer meithrin hunan-wybodaeth wedi'u hailadeiladu a'u hail-ddychmygu fel gweithred o iachâd o etifeddiaeth ddinistriol gwladychiaeth. Gan ddefnyddio’i astudiaeth a’i ddefnydd o ddull dewiniaeth I Ching*, mae byd newydd cyfoethog Robinson yn dychmygu dyfodol ôl-ddiasporig lle mae cosmolegau hynafol a systemau gwybodaeth frodorol wedi llywio ac esblygu defodau ac arferion newydd sy’n arwain teithiau ysbrydol o drawsnewid.

Mae gweithiau celf Robinson ar ffurf paentiadau, cerfluniau a gludweithiau sy’n cynnwys gwrthrychau a delweddau a ddarganfuwyd ochr yn ochr â thestunau addysgiadol a nodiannau cerddorol. Mae effemera diwylliant cyfoes, gan gynnwys cardiau Pokémon, sticeri plant a delweddau wedi’u hargraffu o ffrydiau Instagram a TikTok yn ymddangos ar draws y gweithiau, gan eu gosod mewn dyfodol agos-pell.

Yn ganolog i’r arddangosfa mae iaith symbolaidd Robinson sy’n ailadrodd drwy’r gwaith: y rhwyd, y fflam, y blodyn yn blodeuo, y primat, y llestr, y groes, ac mae amrywiadau’n chwarae allan mewn seicodrama ddiddiwedd. Ym mhob un darn mae'r potensial ar gyfer trawsnewid o un cyflwr seicolegol i'r llall, ac eto nid yw'r llwybr bob amser yn glir. Mae gwaith Robinson yn gofyn i ni fod yn agored i rym a photensial creu defodau i wneud synnwyr o’n bydoedd mewnol a’r byd o’n cwmpas.

Cefnogir yr arddangosfa drwy haelioni’r Loteri Genedlaethol drwy Creative Scotland a Tiwani Contemporary.

Prisiau:

Free | Am ddim

Tocynnau ac Amseroedd