
Crëwch eich byd bach eich hun yn y gweithdy cyfrwng cymysg hwn gyda’r cyfarwyddwr Osbert Parker – sydd wedi’i enwebu am Emmy a BAFTA deirgwaith.
Mae Osbert Parker yn defnyddio technegau cyfryngau cymysg arloesol i greu tirweddau dychmygol unigryw yn ei ffilmiau byr, hysbysebion, rhaglenni teledu a chynnwys ar-lein sydd wedi ennill gwobrau. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau celfyddydau creadigol, mae Osbert yn cydbwyso ei waith animeiddio â chyflwyno dosbarthiadau meistr, seminarau a chynnal gweithdai animeiddio rhyngwladol yn Ewrop, De America a’r DU, ac mae’n ddarlithydd gwadd animeiddio yn Ysgol (NFTS) The National Film & Television.
Bydd Osbert yn eich arwain wrth greu eich dioramâu bach eich hun mewn gwylwyr sleidiau 'Pocket Size Imax', gan ddefnyddio collage o doriadau tryloyw a gwrthrychau bach y daethpwyd o hyd iddynt.
Arddangosir y bydoedd bychain a grëwyd drwy’r gweithdy yn Chapter ac Oriel Umbrella.
Rhowch wybod i ni am unrhyw ddarpariaeth mynediad a fyddai'n ei gwneud hi'n haws i chi fynychu'r gweithdy, megis dehongli BSL.
Ymunwch â ni a mynychwyr eraill yr ŵyl cyn y gweithdy am ginio bwffe yng Nghaffi/Bar Chapter 1-2pm.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Animeiddio Byr Caerdydd, a gynhelir 24–25 Mawrth 2023. Am y rhaglen lawn a rhagor o wybodaeth ewch i cardiffanimation.com.
Gweler gwaith Osbert Parker ar Instagram ac yn osbertparker.com.