
Celf yn Y Caffi: 16 Ebrill - 14 Awst
Mae arddangosfa Owain Train McGilvary wedi’i llywio gan ei gysylltiad agos â grŵp reslo i fenywod a phobl anneuaidd, yn ne Glasgow. Treuliodd Owain y ddwy flynedd ddiwethaf yn gweithio’n agos gyda’r grŵp, ac mae wedi creu portread fideo clòs sy’n cyfleu llawer o’u sgyrsiau i archwilio themâu allweddol, gan gynnwys rôl y ‘dihiryn’, rhywedd, carennydd, a bywydau dosbarth gweithiol.
Mae ymchwil Owain i iaith lafar gwîar – fel Polari neu carny – a’i diben cymdeithasol i alluogi pobl gwiar i fyw’n ddirgel ac yn ddiogel, yn debyg i rai o’r terminolegau a’r motiffau a welodd yn y gymuned reslo. Drwy hyn, darganfu gysylltiad rhwng iaith lafar gwiar ac estheteg camp reslo, y bu’n ymchwilio’n bellach iddo drwy waith ysgrifennu allweddol gan gynnwys y testun ffeministaidd ‘Against Ordinary Language: The Language of The Body’ gan Kathy Acker, a’i waith ysgrifennu ei hunan.
Ochr yn ochr â’r fideo sydd i’w weld yn Stiwdio Seligman, mae Owain wedi cynhyrchu cyfres atodol o waith ar gyfer y caffi bar. Cyfres o baentiadau, darluniau a chlytweithiau sy’n cyfleu cyrff yn gwrthdaro ac yn cyfuno i mewn ac oddi wrth ei gilydd, gyda manylion anifeiliaid, rhannau o’r corff a brenhiniaeth, wedi’u dangos ochr yn ochr â phrintiau ac effemera a gasglwyd sy’n cyfleu byd cymhleth a chyfoethog reslo.
Watch I'm finally using my body for what I feel like it's made to do online here.
Ynglŷn â'r artist
Mae Owain Train McGilvary (g.1992 yn Ynys Môn) yn gweithio ar draws delweddau symudol, paentio, arlunio a chlytwaith. Mae ganddo ddiddordeb mewn ffyrdd o gyfathrebu sy’n deillio o ddiwylliant poblogaidd a iaith lafar gwiar, drwy ymchwilio i’r isddiwylliannau sy’n ymgysylltu â nhw. Mae’r gwaith yn ceisio archwilio eu cymhlethdodau drwy ffyrdd llafar, ystumiol a darluniadol, gan ystyried hanes llafar, rhagdybiaeth, delweddaeth y cyfryngau torfol a deunydd archifol gyda’i gilydd fel ffordd o adrodd straeon mewn clytwaith.
Iau 13 Hyd 2022 - Sul 31 Rhag 2023
Iau 13 Hyd 2022 - Sul 31 Rhag 2023
Sad 10 Rhag 2022 - Sul 16 Ebr 2023