
Carrie Mae Weems yw un o artistiaid cyfoes Americanaidd mwyaf dylanwadol ein hoes, ac ers dros 30 mlynedd mae hi wedi bod yn defnyddio ei gwaith i ymchwilio ac i ganolbwyntio ar y materion difrifol mae Americanwyr Affricanaidd yn eu hwynebu, gan ganolbwyntio ar deulu, perthnasau, hunaniaeth ddiwylliannol, rhywiaeth, dosbarth, systemau gwleidyddol, a goblygiadau grym. Yn fwy diweddar, mae'n ystyried bod ei gwaith yn siarad y tu hwnt i'r profiad uniongyrchol o fod yn Ddu, i gwmpasu cymhlethdod dealltwriaeth, cynhwysiant cymdeithasol a gwybodaeth ehangach pobl.
Mae Carrie wedi trawsosod gweithiau byrddau poster mawr o'i hymgyrch celf gyhoeddus ddiweddar sy'n parhau, RESIST COVID TAKE 6! Mae'r gwaith yma'n canolbwyntio ar y pandemig byd-eang sy'n dal i effeithio arnon ni i gyd, a'i effaith ar bobl groenliw yn benodol. Mae ei delweddau a'i thestun yn cyfuno yma i anelu tuag at ddyfodol mwy gobeithiol.
Ynglŷn â'r artist
Mae Carrie Mae Weems, a anwyd yn Unol Daleithiau America yn 1953, yn byw ac yn gweithio yn Syracuse ac Efrog Newydd. Caiff ei chynrychioli gan Oriel Jack Shainman, Efrog Newydd, a Galerie Barbara Thumm, Berlin.
Ynglyn ag Artes Mundi
www.artesmundi.org