Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Mae Chapter ynghau dros dro. Rydym yn cynnig rhaglen o uchafbwyntiau a newyddion yn ddigidol drwy ein gwefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol. Fel elusen cofrestredig rydym yn cynhyrchu dros 80% o’n hincwm ein hunain a gall eich cefnogaeth helpu i ddiogelu dyfodol ein canolfan gelfyddydau. Os gwelwch yn dda cyfrannwch arlein, neu i roi £10 tecstiwch CHAPTER i 70191. Diolch am eich cefnogaeth ac rydym yn edrych mlaen i’ch croesawu chi nol. Darllennwch ein diweddariad Coronafeirws llawn yma

ART IN THE BAR: Francisco Rodriguez

CELF YN Y CAFFI: Francisco Rodriguez

In The Night We Believe

Mae'r arlunydd Francisco Rodriguez yn cyfeirio at animeiddiadau graffig a darluniau Siapaneaidd, gan gynnig awgrym ar y traddodiad a ysbrydolodd yr ôl-argraffiadwyr. Mae'r arddangosfa yn unedig yn ei phalet o liwiau cyfyngedig, ac mae'n gwahodd yr arsyllwr i archwilio cysylltiadau naratif posib rhwng y cyfansoddiadau sy'n pendilio rhwng tirluniau eang a phortreadau bach.  

Mae'r paentiadau'n llawn ensyniadau ac amwysedd. Mae'r gwaith, sy'n cynnwys gofodau a sefyllfaoedd diddorol ac sy'n dywyll ac yn anesboniadwy ar adegau, yn cyfleu adeiladau heb ffenestri, ffensys, coed pinwydd, a chast o gymeriadau sinistr yn dod i'r amlwg yn y cysgodion.  

Llun (manylion): Landscape, 2020, 40x30 cm, Oil on board crop

 

Ynglŷn â'r Artist 

Graddiodd Francisco Rodríguez gydag MFA o Ysgol Celf Gain Slade yn 2018. Ers hynny, roedd ganddo arddangosfa unigol yn yr Amgueddfa Celf Gyfoes yn Santiago, ac mae wedi ymddangos mewn sioeau grŵp niferus yng ngwledydd Prydain a thramor. Roedd Francisco hefyd wedi'i gynnwys yn Bloomberg New Contemporaries 2018, a lansiwyd yng Ngŵyl Ddwyflynyddol Lerpwl cyn teithio i Oriel De Llundain. Mae ei waith wedi'i gynnwys mewn sawl casgliad cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys Casgliad Celf DLA a Museo de Arte Contemporáneo (MAC), Chile. 

 

ART IN THE BAR SPONSORED BY

undefined

Prisiau:

FREE | AM DDIM

Tocynnau ac Amseroedd

  • Llun 10 Awst , 12:00 am