
Mae ymarfer eang Dineo Seshee Bopape yn ymdrin â syniadau cymdeithasol-wleidyddol o gof—o’r personol i waith ar y cyd, i’r hysbys a’r anhysbys—traethiad a chynrychiolaeth fel ffurfiau cydberthynol. Mae’n dangos obsesiwn gydag atgofion a sut gallai eiddo personol neu wrthrychau bob dydd fod yn arwyddocaol yn eu hanfod ac wedi’u gwreiddio mewn hanes y tu hwnt i’w defnydd dyddiol. Mae ei gwaith yn aml yn defnyddio ystod amrywiol o ddeunyddiau elfennol cyffredin fel pridd, briciau a phren gyda gwrthrychau a delweddau archifol, fideo a sain, i ddatblygu gosodiadau dwys a phwerus. Rhoddir ffurf ddiriaethol i ddeunyddiau fel pridd, aer neu ddŵr.
Mae Bopape wedi cynhyrchu cyfres o waith newydd y mae ei osodiad yn cysylltu lleoliadau yn Affrica ac UDA fel Coedwig Achimota, Accra, Ghana, afon James River, Richmond, Virginia ac afon Mississippi yn New Orleans. Mae clai a phridd o’r lleoedd hyn yn uno â chlai a phridd o’r Île de Gorée oddi ar arfordir Senegal yn Dakar—sy’n enwog fel man gadael yn Affrica ar gyfer masnach gaethwasiaeth Môr yr Iwerydd—i greu Master Harmoniser, casgliad o dros 1,000 o luniau. Mae’r gwaith hwn yn gweithio ochr yn ochr â (Nder brick) ___ in process (Harmonic Conversions) i weithredu fel teyrnged i’r aberth a brofodd menywod Nder yng Ngogledd Senegal er mwyn osgoi cael eu cymryd fel caethferched.
Cyflwynir pridd, gwrthrychau, lluniadau a sain mewn mannau gyda waliau wedi’u gorchuddio â golchiadau pridd o safleoedd sanctaidd Cymru. Wedi’i gyflwyno yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter, mae Gorree (cân): Thobela: harmonic conversions yn waith sain sy’n rhannol alargan, yn rhannol atgof, yn rhannol gydnabyddiaeth i gyndeidiau. Gan gysylltu lle, hanes ac yn ymestyn ar draws amser, ar y cyfan mae’r gweithiau hyn yn dwyn ynghyd y nefoedd a’r ddaear, y corfforol a’r metaffisegol, y personol a’r cyfunol, i leoliad i gydnabod ac adfer, gan greu awyrgylch grymus sy’n cwestiynu’r hyn sy’n mynd yn angof a’r hyn y dylid ei gofio.
Ynglŷn â'r artist
Mae Dineo Seshee Bopape, a anwyd ym 1981, De Affrica, yn byw ac yn gweithio yn Johannesburg. Fe’i cynrychiolir gan Oriel Sfeir-Semler, Beirut/Hamburg