
Rydyn ni'n falch iawn o gyflwyno Y Canu Chalkydri, comisiwn newydd gan y ddeuawd gydweithredol o artistiaid, Megan Broadmeadow ac Abi Hubbard, a ddewiswyd o blith bron i 150 o geisiadau a ymatebodd i'n galwad agored.
Mae Malaphors wedi creu gwaith celf sy'n ymateb i ail-agoriad Chapter yn fuan; cyfarchiad a gwahoddiad i bobl Caerdydd a Chymru groesi trothwy'r adeilad unwaith eto.
Creaduriaid angylaidd yw Chalkydri, sy'n llafarganu negeseuon i'r adar i nodi dechrau côr y bore bach. Mae'r darlun yn dwyn byd cyfoethog o symboliaeth hudol i'r cof, sy'n cyfeirio at bennod newydd yn y ffordd rydyn ni'n cyfathrebu ac yn gweld ein byd, ac eraill y tu hwnt iddo; canolbwyntio ar y gobaith a ddaw gyda dechreuad newydd.
Y dduwies Iris yw'r ffigur canolog, sy'n bodoli yng nghanol yr enfys mewn Mytholeg Roegaidd. Yn Y Canu Chalkydri, mae hi'n meithrin ecosystem gyfriniol ac yn tywys y grym bywyd sydd o'i chwmpas. Mae Ceriwbiaid rhyweddhylifrol - sy'n hanner person, hanner cwmwl - yn seinio neges o lawenydd a gobaith i gymdeithas sy'n symud ac yn esblygu. Ar yr un pryd, mae eu penwisg yn ymdebygu i'r proteinau amlen sydd mewn firysau, gan awgrymu bod mwy iddyn nhw nag sydd i'w weld ar yr wyneb...
Ynglŷn â Malaphors
Malaphors yw enw cydweithfa'r artistiaid Megan Broadmeadow ac Abi Hubbard.
Mae Megan Broadmeadow yn creu arddangosfeydd trochol sy'n cynnwys fideo (rhithwir yn ddiweddar), cerflunwaith, perfformiad, a thechnolegau gosodwaith digidol. Roedd ei harddangosfa unigol ddiweddar, SEEK PRAY ADVANCE, yn wledd ysbeidiol o ffuglen wyddonol, a gyflwynwyd yn Orielau Southwark Park, Llundain, Gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghrughywel, a Quad yn Derby (2018-19). Mae ei harddangosiadau unigol diweddar yn cynnwys: Carnifal y Môr, yr Eisteddfod Genedlaethol (2018); Astro Raggi, Canolfan Gelfyddydau Plymouth (2015) a Mercury 13, Galeria Melissa Llundain (ill dau yn 2015). Yn 2015-16, hi enillodd Wobr Cerflun Mark Tanner, a chynhaliwyd y sioe ganlyniadol yn Standpoint, Llundain.
Yn 2019, bu Megan yn guradydd gwadd i ŵyl LLAWN, sef gŵyl celfyddydau byw a gweledol fawr yn Llandudno, a bu iddi hefyd sefydlu'r gofod prosiect D UNIT ym Mryste. Ar hyn o bryd mae hi'n cyd-gynhyrchu SPUR - preswylfa ddigidol chwe mis ar gyfer graddedigion 2020 ledled gwledydd Prydain - www.spur.world
Astudiodd Abi Hubbard BA (Celf Gain) ym Mhrifysgol Nottingham Trent, ac yn 2019 cafodd MA o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae Abi yn arfer dull amlddisgyblaethol lle mae'n cyfuno trosiadau ffuglen wyddonol gyda'r dirgel, er mwyn cwestiynu syniadau ynghylch ein hunaniaeth gyfoes a'r tafluniad ohonon ni'n hunain yn y dyfodol. Mae'r gwaith yn gweithredu fel porth gweld, sy'n cynnig cipolwg o ddyfodol iwtopaidd posib lle mae mwtaniaid yn hyfryd ac mae'r gymdeithas yn seiliedig ar werthoedd o gysylltiad a chydraddoldeb.
Ymhlith ei harddangosiadau grŵp diweddar mae: Brunswick Club Projections; Sioeau Stiwdio D UNIT (ill dau yn 2019); Aliens of the Art World, Centrespace, Bryste (2018); Travellers of the Earth, Wuhan, Tsieina; Nottingham Castle Open (lle cafodd wobr Axisweb); Sunscreen yn Biennale Fenis, a Staging the Artwork 2, Oriel Article (oll yn 2015).
Gwen 20 Hyd 2023 - Sul 25 Chw 2024