Events

BAFTA Cymru: Hanner can mlynedd o Pobol Y Cwm

  • 1h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m
  • Math General Entertainment

Ymunwch â ni i ddathlu hanner can mlynedd o Pobol y Cwm.

Mae BAFTA Cymru, BBC Cymru Wales, BBC Studios ac S4C yn eich gwahodd i ddangosiad arbennig o'r bennod pen-blwydd, gyda diod i ddilyn.

Pennod 80 (20 munud)

Ar fore priodas Anita a Griffiths mae Mathew yn camu i’r adwy pan mae’r Glyndwr yn canslo’r gwasanaeth ar fyr rybudd. Gyda’r briodas bellach am ddigwydd yn APD mae teulu a ffrindiau Anita yn gwneud eu gorau i sicrhau bod y diwrnod yn llwyddiant, ond caiff Anita ei llethu gan atgofion o’r gorffennol a phryder am ei hiechyd.

Pennod 81 (53 munud)

Daw’r pentrefwyr ynghŷd i ddathlu penblwydd arbennig Megan yn wyth-deg mlwydd oed, ond caiff pawb eu rhoi mewn perygl yn dilyn damwain erchyll ar y stryd fawr.

Share