The stair lift to Cinema 1 is currently out of order. For step-free access, please book tickets for Cinema 2. Thank you for your patience!

Performance

Bragod: Spring Releases

  • 1h 30m

£10 - £12

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m
  • Math General Entertainment

Ymunwch â ni yn y cyntaf mewn cyfres o roddion tymhorol gan Bragod, y ddeuawd berfformio gerddorol sy’n cynnwys yr offerynnwr o Gymru Robert Evans a’r gantores o ynys Trinidad Mary-Anne Roberts:

‘What Winter confines, Spring releases, Summer heats and Autumn ripens’ Boethius, Chweched Ganrif.

Mae 'Spring Releases' yn gyfansoddiad newydd mewn deialog â’r cerddor clasurol o India, Amruta Garud

Mae tocynnau bargen gynnar ar gael tan 29 Mawrth. Defnyddiwch y cod EARLYBIRD6 ar y cam talu.

___

Ynglŷn â'r artistiaid

Mae byd tonyddol eithriadol Bragod yn datgelu gwreiddiau gwirioneddol cerddoriaeth. Gan ddefnyddio offerynnau a ffynonellau gwreiddiol, mae’r ddeuawd unigryw yma’n archwilio cerddoriaeth a barddoniaeth ganoloesol a seremonïol Cymru, gan arbrofi a dychmygu. Mae Robert Evans yn chwarae’r delyn fach Ewropeaidd a’i disgynnydd, y crwth. Mae Mary-Anne Roberts yn canu’n eofn wrth droedio patrymau deuaidd y gerddoriaeth hudol yma: gallwn glywed y bydysawd. Maen nhw’n rhoi datganiadau acwstig yn rhyngwladol, yn chwarae cerddoriaeth ddefodol i’w cymuned leol, ac wedi gwneud gwaith comisiwn yn gosod cerddi modern.

Lleisydd Indiaidd clasurol, cyfansoddwr, entrepreneur ac awdur medrus yw Amruta Garud. Mae’n arwain Ayan Cymru ers dros ddegawd, ac mae hi wedi cynnig gwasanaethau cerddorol eithriadol ledled y byd. Mae ei hymroddiad i rannu ei harbenigedd yn amlwg yn ei gwaith llyfn yn hwyluso gweithdai cerddoriaeth, sesiynau llesiant, a pherfformiadau pwerus.

Share

Times & Tickets