Film

Carry on Screaming: The Nature of Love

  • 1h 52m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 52m
  • Math Film

Nodwch: Dim babi, dim mynediad!

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.


Canada | 2023 | 112’ | 15 | Monia Chokri | Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg | Magalie Lépine Blondeau, Pierre-Yves Cardinal

Mae’r darlithydd athroniaeth deugain oed, Sophie, mewn perthynas sefydlog, er braidd yn ddi-angerdd, gyda Xavier. Mae degawd wedi hedfan heibio, yn llawn partïon swper a digwyddiadau diwylliannol gyda’u ffrindiau deallusol, blaengar, dosbarth canol. Ond pan mae’n cwrdd â Sylvain, yr adeiladwr yn eu caban gwyliau, mae cysylltiad rhwng y ddau yn syth. Mae Sophie’n dechrau cwestiynu ei dewisiadau, a’i rhagdybiaethau blaenorol. Mae pobl yn cael eu denu at y dieithr, ond a yw hynny’n para? Comedi dywyll rywiol, finiog a threiddgar, a phortread craff o genhedlaeth o fenywod sy’n archwilio awydd, ffyddlondeb a normau cymdeithasol.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.

Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Share

A close-up of red velvet cinema screen curtains.

Sinema

Rydyn ni’n arwain y maes sinema annibynnol yng Nghymru, gan gyflwyno’r ffilmiau gorau o Gymru, gwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.

Learn More