Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

A person creates a clay sculpture of Feathers McGraw, the penguin from Wallace and Gromit.

Film

CAW 2025 Aardman Model Making Workshop (8+)

  • 1h 0m

£7 - £9

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Math Film

Dewch i fod yn greadigol a dysgu crefft unigryw creu modelau yn y gweithdai modelu clai hwyliog a rhyngweithiol yma.

Fe gewch chi gyfarwyddyd cam wrth gam gan wneuthurwr modelau arbenigol, a byddwch yn dysgu sut i grefftio’ch model o Gromit neu Feathers McGraw, i’w gadw ac i fynd ag e adre gyda chi.

Mae’r gweithdy’n gyfle gwych i ddarpar animeiddwyr a’r rhai sy’n hoff o stop-symud i gael mynd tu ôl i’r llen, gofyn cwestiynau, a dysgu am broses gynhyrchu Aardman.

Ar ôl y gweithdai bydd cyfle i weld Wallace & Gromit: The Wrong Trousers a Wallace & Gromit: Vengeance Most Fowl ar y sgrin fawr!

Yn addas i bob lefel sgil ac i bawb sy’n 8 oed neu’n hŷn.

Rhowch wybod os byddai unrhyw ddarpariaeth hygyrchedd yn ei gwneud hi’n haws i chi ddod i’r digwyddiad, fel dehongliad Iaith Arwyddion Prydain.


Wedi'i gynnwys ym Mhas yr Ŵyl.

Share

Times & Tickets