Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

A large animated hot dog in a bunn with ketchup and mustard sits on top of a small hut with a sign that reads the text "World's Largest Hod Dog". A pink cloudy sky sits behind the hot dog and above the grey road where a red and yellow car drive.

Film

CAW 2025 Boys go to Jupiter (15) + Q&A with Julian Glander

15
  • 1h 55m
  • USA

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Julian Glander
  • Tarddiad USA
  • Hyd 1h 55m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Capsiynau + recordiad o sesiwn holi ac ateb gydag capsiynau

Mae rhywbeth yn bwdr yn nhalaith Florida. Diwrnod wedi’r Nadolig yw hi, ac mae marwoldeb y flwyddyn yn drwm yn yr aer corsiog.

Bachgen di-nod yn ei arddegau yw Billy 5000, ac mae’n gwneud ei orau i lenwi’i ddyddiau a’i bocedi. Os gall ddod o hyd i $5,000 cyflym cyn Nos Galan, bydd ganddo’r hyn sydd ei angen arno i gael ei fywyd ’nôl ar y trywydd cywir. Ond, mae gan y lluoedd cosmig sy’n rheoli Florida gynlluniau eraill i Billy.

Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn gwylio’r ffilm liwgar a cherddorol yma, sy’n dangos tamaid o fywyd abswrdaidd yn yr Unol Daleithiau drwy lygaid Julian Glander. Efallai y bydd selogion yr ŵyl yn gyfarwydd â golwg 3D steilus gwaith Glander ers rhai o’i ffilmiau byrion sydd wedi cael eu dangos yma dros y blynyddoedd!

Ar ôl y dangosiad, byddwn ni’n clywed gan y cyfarwyddwr Julian Glander mewn sesiwn holi ac ateb sydd wedi’i recordio ymlaen llaw. Yn y sesiwn, bydd yn siarad gyda ni am ei waith yn creu’r stori ddod-i-oed freuddwydiol yma, sut llwyddodd i’w llenwi â chariad, hiwmor, a cherddoriaeth gampus, yn ogystal â dwyn ysbrydoliaeth o’i fagwraeth yn nhalaith heulog Fflorida.

Wedi'i gynnwys ym Mhas yr Ŵyl.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share

Times & Tickets

Key

  • C Capsiynau