Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

An animated life-size orange cat with large round eyes is sat on a moped, looking over its left shoulder to a young girl with two plaits and wears a white top.

Film

CAW 2025 Ghost Cat Anzu (15 tbc)

15 tbc
  • 2024
  • 1h 37m
  • Japan

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Yôko Kuno, Nobuhiro Yamashita
  • Tarddiad Japan
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 37m
  • Tystysgrif 15 tbc
  • Math Film

Japaneaidd gydag isdeitlau Saesneg

Mae Penwythnos Animeiddio Caerdydd yn falch o gydweithio gyda Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu i gyflwyno Ghost Cat Anzu yn Chapter!

Mae Karin, sy’n 11 oed, yn cael ei gadael gan ei thad mewn tre fach yn Japan, lle mae ei thaid, y mynach, yn byw. Mae ei thaid yn gofyn i Anzu, ei ysbryd-gath lawen a chymwynasgar, ond braidd yn oriog, i ofalu amdani. Wrth i’w personoliaethau bywiog wrthdaro, mae gwreichion yn tasgu—ond bosib mai megis dechrau yw hyn.

Nodiadau cynnwys
: Galar, goruwchnaturiol.

Wedi'i gynnwys ym Mhas yr Ŵyl.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share

Times & Tickets