Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Film

CAW 2025 Memory Sketch Showdown! (18+)

18+
  • 1h 0m

£7 - £9

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Tystysgrif 18+
  • Math Film

Dewch i wylio brwydr cof cartŵn epig yn fyw ar y llwyfan, wrth i griw o animeiddwyr a darlunwyr dawnus fynd benben mewn digwyddiad newydd sbon ym Mhenwythnos Animeiddio Caerdydd!

Allech chi gofio sut i dynnu llun o hoff gymeriadau cartŵn eich plentyndod o’ch cof? Beth pe baech chi’n rasio yn erbyn y cloc? Yn erbyn artist cyflym arall?! A gydag ysgogiadau ychwanegol yn cael eu taflu i’r gymysgedd!? A’r cyfan o flaen cynulleidfa fyw?!?!!

Dyma’r her sy’n wynebu ein cystadleuwyr creadigol wrth iddyn nhw geisio cofio eiconau’r byd animeiddio yn nigwyddiad byw mwyaf gwyllt y penwythnos!

Dan arweiniad y digrifwr Jose Fortuna, bydd hwn werth ei weld!


Wedi’i gynnwys ym Mhas yr Ŵyl.

Share

Times & Tickets