Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Film

CAW 2025 Oska Bright Film Festival: Animation

adv15+
  • 1h 25m

£7 - £9

Nodweddion

  • Hyd 1h 25m
  • Tystysgrif adv15+
  • Math Film

Dangosiad gyda Capsiynau + capsiynau byw + Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane

Mae dangosiad animeiddiadau Oska Bright ’nôl ac yn well nag erioed, gydag ystod enfawr o arddulliau a themâu. Cadwch lygad am ddarn o bapur sy’n dod yn fyw, bath o swigod, a modelau o fydoedd bach rhyfeddol.

Yn ogystal â detholiad anhygoel Oska Bright o animeiddiadau, bydd rhaglen hyfforddi The Different Voices yn dangos eu ffilm fer animeiddiedig newydd sbon, Crybaby, sef prosiect sy’n archwilio themâu hunan-ddarganfod, lleisiau mewnol negyddol a thwf personol. Gydag arweiniad gan dîm Biggerhouse, datblygodd yr animeiddiwr a’r cyfarwyddwr Eleri Edwards ei chynnig, a chael cyllid gan Ffilm Cymru Wales.

Dyma fydd y dangosiad cyntaf o Crybaby, ac mae’n siŵr y bydd llawer o’r cast, yr animeiddwyr a’r cyfranwyr yn y gynulleidfa!


Wedi’i gynnwys ym Mhas yr Ŵyl.

___

Ynglŷn ag Oska Bright

Gyda chanran y bobl anabl sy’n gweithio yn niwydiant ffilm Prydain yn llai na 5%, mae Gŵyl Ffilmiau Oska Bright yn benderfynol o greu newid. Gan weithio’n rhyngwladol gyda phartneriaid o’r diwydiant ac wedi’i ariannu gan y BFI, mae ein tîm yn cynhyrchu Gŵyl Ffilmiau Oska Bright – sy’n gymwys ar gyfer gwobrau BAFTA a BIFA – ac yn hyrwyddo dangosiadau hygyrch, yn cynnal hyfforddiant i ganolfannau, ac yn datblygu sgiliau gwneuthurwyr ffilm newydd.

Mae Gŵyl Ffilmiau Oska Bright yn rhoi pobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth ble ddylen nhw fod, ar y sgrin fawr.

www.oskabright.org

Ynglŷn â Different Voices a Biggerhouse Films

Cywaith parhaus rhwng Gŵyl Animeiddio Caerdydd a Biggerhouse Film CIC, wedi’i ddylunio i roi hwb i yrfa greadigol animeiddwyr niwroamrywiol.

Mae ymrwymiad Biggerhouse i gynhwysiant wedi arwain at sawl dangosiad o brosiectau blaenorol yng Ngŵyl Ffilmiau Oska Bright.

Mae Biggerhouse Film CIC yn arbenigo mewn meithrin cyweithiau ystyrlon a chefnogi gwneuthurwyr ffilm niwroamrywiol, yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr yn arbennig, ac maen nhw’n parhau i hyrwyddo lleisiau sy’n aml yn cael eu gadael allan o’r cyfryngau prif ffrwd. Mae cynllun parhaus Different Voices yn dyst i bŵer cydweithio a phwysigrwydd creu lle i straeon sy’n adlewyrchu sbectrwm amrywiol y profiad dynol.

Share

Times & Tickets

Key

  • C Capsiynau