Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Film

Benwythnos Animeiddio Caerdydd 2025 Pass Penwythnos

  • United Kingdom

£35 - £45

Nodweddion

  • Tarddiad United Kingdom
  • Math Film

Tocynnau Pass Penwythnos am Benwythnos Animeiddio Caerdydd 2025 nawr ar werth!

Nodwch: Dim ond un pass fesul cwsmer.

Croeso i Benwythnos Animeiddio Caerdydd 2025! Allwn ni ddim aros i rannu’r rhaglen fywiog a hybrid yma o animeiddiadau hiraethus, trysorau prin, clasuron cwlt, a pherlau newydd sbon a fydd yn aros gyda chi am byth.

Dim ots a gawsoch chi’ch magu yn gwylio dangosiadau i blant fore Sadwrn, tapiau VHS aneglur o’r siop gornel, neu gartŵns fflach rhyfedd ar-lein, ymunwch â ni mewn cyfle prin i weld aur y byd animeiddio ar y sgrin fawr, ac i ddarganfod eich ffefrynnau newydd.

Rydyn ni am i Benwythnos Animeiddio Caerdydd fod yn lle croesawgar a chynhwysol i bawb. Os nad ydych chi’n nabod neb arall sy’n dod, mae ein tîm a’n gwirfoddolwyr cyfeillgar bob amser yn barod am sgwrs!

Mae isdeitlau ar ein holl ddangosiadau, ac mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer pob sgwrs a sesiwn holi ac ateb.

Wedi methu rhywbeth roeddech chi’n gobeithio ei weld? Dim problem. Rhwng 17 Mai a 1 Mehefin, gallwch wylio ffilmiau byrion yr ŵyl a digwyddiadau wedi’u recordio o adre.

Dewch i fwynhau ffilmiau, ymuno yn y sgyrsiau, cymryd amser i ailgysylltu, cwrdd â ffrindiau newydd, creu, a chael hwyl ym Mhenwythnos Animeiddio Caerdydd. Gobeithio y bydd yn sbarduno cysylltiadau, yn tanio llawenydd, yn ysbrydoli eich creadigrwydd, ac yn eich lapio ym mlanced glyd a hiraethus yr ŵyl.

Cariad mawr,
Tîm Gŵyl Animeiddio Caerdydd

Share

Times & Tickets