Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Film

CAW 2025 Stay Courageous with John R. Dilworth (15+)

15+
  • 1h 15m
  • USA

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan John R Dilworth
  • Tarddiad USA
  • Hyd 1h 15m
  • Tystysgrif 15+
  • Math Film

Ffilmiau gyda capsiynau + capsiynau byw + dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane

Dathlwch chwarter canrif o Courage the Cowardly Dog gyda’r crëwr, y cyfarwyddwr a’r animeiddiwr John R. Dilworth, a fydd yn ymuno â ni yng Nghaerdydd yr holl ffordd o Efrog Newydd!

Gwyliwch benodau clasurol Courage gan gynnwys, The Chicken from Outer Space, Freaky Fred, King Ramses’ Curse ac A Night at the Katz Motel yn y sinema, a gwrandewch ar y broses o greu’r gyfres gwlt glasurol yma ar Cartoon Network, o stori anghredadwy cynnig y sioe, i’w gwaddol gyda chenhedlaeth heddiw o ffans animeiddio.

Mae’r arwr animeiddio a enwebwyd am Wobr Academy, John R. Dilworth, yn ymuno â ni mewn sgwrs gydag un o’i ffans pennaf a chynhyrchydd animeiddio toreithiog, Helen Brunsdon. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i Dilly ei hunan!

Wedi'i gynnwys ym Mhas yr Ŵyl.

Share

Times & Tickets

Key

  • C Capsiynau