
Nodweddion
- Hyd 1h 0m
- Math Workshops
Darganfyddwch drysorau cynhanesyddol a dod â nhw’n fyw yn y gweithdy animeiddio stop-symud ymarferol yma gyda’r darlithydd a’r animeiddiwr Helen Piercy. Gan ddefnyddio ffosilau lleol go iawn, byddwch chi’n archwilio hud technegau animeiddio traddodiadol ac yn creu eich ffilm fer eich hunan.
Yn y sesiwn ryngweithiol yma, byddwch chi’n dysgu sut mae creu ffilm stop-symud fach gan ddefnyddio’ch ffôn clyfar a thechnegau arbennig. Byddwch chi’n dylunio ac adeiladu eich cymeriadau deinosor eich hunan gan ddefnyddio deunyddiau naturiol o’ch gardd, a fydd yn cael eu dychwelyd i’r ddaear ar ôl y gweithdy.
Dim ots a ydych chi’n wneuthurwr ffilm tro cyntaf neu’n frwd dros animeiddio, bydd y gweithdy yma wedi’i ddylunio i fod yn hwyl ac yn hygyrch i bob lefel sgil.
Mae’r gweithgaredd teuluol yma’n addas i bobl 6 oed neu’n hŷn, ac mae croeso i oedolion – allwch chi ddim bod yn rhy hen. Bydd angen ffôn clyfar ar bob teulu, a bydd manylion yr ap sydd ei angen yn cael eu rhannu wrth archebu.
Rhowch wybod os byddai unrhyw ddarpariaeth hygyrchedd yn ei gwneud hi’n haws i chi ddod i’r digwyddiad, fel dehongliad Iaith Arwyddion Prydain.
Wedi'i gynnwys ym Mhas yr Ŵyl.
Times & Tickets
-
Dydd Sadwrn 17 Mai 2025
More at Chapter
-
- Film
CAW 25 Pass Sadawrn
Tocynnau Pass dydd Sadwrn am Benwythnos Animeiddio Caerdydd 2025 nawr ar werth!
-
- Film
CAW 2025 Exhibition: Memory Box (PG)
Animeiddwyr o Gymru yn edrych ’nôl ar eu hysbrydoliaeth animeiddio.
-
- Film
Benwythnos Animeiddio Caerdydd 2025 Pass Penwythnos
Weekend Festival Pass for Cardiff Animation Weekender 2025
-
- Film
CAW 2025 Ghost Cat Anzu (15 tbc)
Dangosiad arbennig o Ghost Cat Anzu mewn cydweithrediad â Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu.