Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Film

CAW 2025 Y Dywysoges a’r Bwgan (The Princess and the Goblin) (U) + Q&A

U
  • 1h 15m
  • Wales/Hungary

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan József Gémes
  • Tarddiad Wales/Hungary
  • Hyd 1h 15m
  • Tystysgrif U
  • Math Film

Cyfle i ail-weld y glasur ffantasi gwlt, Y Dywysoges a’r Bwgan, gyda dangosiad prin ar y sgrin fawr – yn Gymraeg!

Wrth chwarae yn y coed, mae bwganod yn ymosod ar y Dywysoges Rhiannedd. Mae rhyfelwr o’r enw Rhydian yn ei hachub. Pan fydd y bwganod yn ymosod ar y deyrnas ac yn cipio Rhydian, mae’n rhaid i Rhiannedd ddefnyddio hud a lledrith i’w hachub.

Ar ôl y dangosiad, bydd sawl aelod o’r criw gwreiddiol yn ymuno â ni, gan gynnwys y Cynhyrchydd Robin Lyons, yr Artist Bwrdd Stori Rick Villeneuve a’r Awdur Andrew Offiler.

Byddan nhw’n mynd â ni tu ôl i’r llen i ddangos y broses o greu ffilm nodwedd ag animeiddio llaw ar ddechrau’r nawdegau, cydweithio’n rhyngwladol gyda Hwngari, a gwaddol y ffilm ar fyd animeiddio Cymraeg, dan arweiniad yr animeiddiwr a’r cyfarwyddwr Efa Blosse-Mason a’r darlunydd a’r dylunydd o Hwngari, Gabi Balla.

Bydd seliwloidau gwreiddiol, celf gysyniadol â llaw, a phaentiadau olew o Y Dywysoges a’r Bwgan i’w gweld yn arddangosfa’r penwythnos.

Nodiadau cynnwys: Bygythiad ysgafn, trais ysgafn.

Wedi'i gynnwys ym Mhas yr Ŵyl.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share

Times & Tickets

Key

  • C Capsiynau