Nodweddion
- Hyd 1h 30m
- Math Music
Deuawd gelf yw Copper Sounds sy’n defnyddio prosesau traddodiadol a chyfoes i archwilio natur ffisegol a gweledol sain. Maen nhw’n ystyried sain fel deunydd hydrin ac mae ganddyn nhw ffordd unigryw o weithio gyda sain a’i drin, drwy ddylunio a chreu gwrthrychau sonig maen nhw’n eu chwarae’n fyw.
Ar ddechrau 2025, treuliodd Copper Sounds bythefnos yng nhŷ Sonoscopia, yn Porto, yn datblygu offerynnau mecanyddol ac yn cydweithio gyda cherddorion preswyl Sonoscopia. Drwy sesiynau byrfyfyr di-ri, llwyddon nhw i siapio cerddoriaeth newydd yn raddol – gan ffurfio fframiau, arbrofi gyda mecanweithiau, a mireinio eu dyfeisiau sonig newydd. Arweiniodd y pythefnos yma at dair noson yn Porto; a bellach mae Gustavo Costa a Henrique Fernandes o Sonoscopia yn ymuno â Copper Sounds ar gyfer pedair noson fyw yng ngwledydd Prydain.
Mae tocynnau bargen gynnar ar gael tan 12 Ebrill. Defnyddiwch y cod EARLYBIRD6 ar y cam talu.
___
Ynglŷn â'r artistiaid
Deuawd gelf yw Copper Sounds sy’n defnyddio prosesau traddodiadol a chyfoes i archwilio natur ffisegol a gweledol sain. Mae’r gwrthrychau maen nhw’n eu creu yn adrodd stori eu proses ac yn nodi eu taith o drawsnewid deunydd crai yn sain. Dechreuon nhw fel gwneuthurwr recordiau arbrofol; yn creu recordiau o ddeunyddiau fel copr, craig folcanig, sialc a serameg. Yn ystod setiau DJ byw estynedig, maen nhw’n cymysgu’r gwahanol ddeunyddiau yma i greu egni llawr dawnsio tywyll, afreolus a diwydiannol.
Times & Tickets
-
Dydd Sadwrn 3 Mai 2025
More at Chapter
-
- Events
Noson Lawen: Cerdd a Chanu yn y Bar
-
- Events
Pobl Miwsig
-
- Events
Jazz in the Bar
Rydyn ni’n falch iawn o gael croesawu grŵp jazz y tŷ ’nôl, sef Pedwarawd Chapter.
-
- Performance
Theo Alexander a Qow + yy wood
At once playful and disarming, Theo Alexander and Qow’s collaborative performances combine non-verbal voice notes, semi-classical instrumentals, spoken word, and tape-loop ambience.