
Nodweddion
Yn y golaugwan,
a sŵn y peiriant
Gyda phriciau, ac edau, a jam, a menyn
Mae Cudyll Bach yngwneudeinyth.
Gan wnïo a chnoi
Sgrechian a chanu
Mae Cudyll Bach yngwneudeinyth.
___
Gwahoddiad yw Cudyll Coch i gynulleidfaoedd ymuno â'r artist Rhys Slade-Jones wrth iddyn nhw gloddio, cymylu a chreu atgofion.
Bydd y perfformiad pedair diwrnod yma’n datblygu drwy ofodau yn Chapter – wrth blethu a chyfuno darnau o atgofion teuluol (rhai go iawn, a rhai mwy na go iawn) i greu nyth i'r artist a'r gynulleidfa.
Mae'r perfformiad yn dechrau wrth beiriant gwnïo ar 23 Gorffennaf, a bydd y penllanw mewn picnic gyda’r nos ar 26 Gorffennaf.
Archebwch eich tocyn am le ar y picnic ar ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf, 6-9pm.
___
Ynglŷn â'r artist
Mae Rhys Slade-Jones, sydd wedi derbyn Bwrsariaeth Perfformio Mike Pearson, yn preswylio yn Chapter ar hyn o bryd. Artist perfformio o Gwm Rhondda yw Rhys Slade-Jones. Maen nhw’n troedio’r llinellau rhwng gwrthdaro a chyfeillgarwch, gan greu gwaith sy’n hwyl, yn ddidostur ac yn llawn calon.
Drwy droedio’r llinell rhwng y cyfeillgar a'r heriol, mae Rhys yn creu gwaith gwleidyddol sy'n pontio bydoedd cabare, perfformio a chrefft. Yn ei hanfod, mae gwaith Rhys yn archwilio cymuned, hanes a grym, gan gwestiynu'n gyson y systemau byd-eang rydyn ni i gyd wedi ein clymu ynddynt. Maen nhw’n defnyddio perfformiad i ymchwilio i'r berthynas rhwng eu corff eu hunain, y dirwedd, a'r deunyddiau a geir ynddo, gan greu gwrthrychau a gwisgoedd sy'n caniatáu i wahanol gymeriadau ddod yn fyw o flaen cynulleidfa. Mae eu harfer yn ceisio creu lle ar gyfer ffolineb, hwyl ac abswrdiaeth – gweithred sy'n aml yn anodd ond yn fwriadol. Mae eu gwaith yn fyfyrdod ar ecolegaucwiar, egni diderfyn rêfscwiar, a natur wleidyddol gynhenid llawenydd, sydd i gyd yn cael eu cymhlethu gan ymwybyddiaeth o drychineb amgylcheddol a galar ar y cyd.
Times & Tickets
-
Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf 2025
More at Chapter
-
- Workshop
Amruta Garud: Indian Healing Sounds
Profiad lles cyfannol yw Seiniau Iacháu Indiaidd sydd wedi'i wreiddio mewn hen draddodiadau Indiaidd sy'n defnyddio dirgryniadau sain i hyrwyddo iachâd corfforol, emosiynol ac ysbrydol. Mae sesiwn fel arfer yn cynnwys defnyddio offerynnau traddodiadol Indiaidd a chanu a llafarganu mantras neu synau cysegredig.
-
- Performance
Anushiye Yarnell: Archipelago Movement Class
-
- Performance
Threshold: (Un)naturally
Mewn seinweddau arbrofol, mae bregusrwydd cynhenid y ‘naturiol’ yn cwrdd â thro’r ‘annaturiol’. Dyma’r thema y bydd artistiaid cysylltiedig Pasta Now– wedi’u curadu gan Rosey Morwenna, Rowan Campbell a Pam Rose Cot t– yn ei harchwilio ar gyfer ail rifyn Trothwy.
-
- Performance
Ex-Easter Island Head + support from Beauty Parlour