Performance

Dan Johnson and Maggie Nicols + cefnogaeth gan Heledd C Evans

  • 2h 0m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 0m
  • Math Music

Ymunwch â ni mewn perfformiad arbennig gan y lleisydd byrfyfyr-rhydd chwedlonol, Maggie Nicols, a’r artist perfformio a’r offerynnwr taro arbrofol, Dan Johnson.

Gyda’r artist sain o Gaerdydd, Heledd C Evans, yn cefnogi.

___

Ynglŷn â'r artistiaid

Yn rhan ganolog o gymuned byrfyfyr Ewrop ers ymuno ag ensemble chwedlonol Spontaneous Music John Stevens ar ddiwedd y chwedegau, mae Maggie Nicols yn perfformio’n rhyngwladol mewn gwyliau mawr ers degawdau ac wedi gweithio gyda llawer o gerddorion byrfyfyr ledled y byd. Mae’n gyd-sylfaenydd y Grŵp Byrfyfyr Ffeministaidd, ac mae hi hefyd wedi gweithio i hyrwyddo menywod ym maes byrfyfyr cerddoriaeth, dawns, a chelfyddydau eraill. https://maggienicolscreations.com/bio/

Offerynnwr taro, artist perfformio ac addysgwr o Fryste yw Dan Johnson, sydd, drwy ei waith unigol ac ensemble, yn gwthio ffiniau o ran y ffordd mae pobl yn edrych ar ddrymio. Mae’n adnabyddus am ei berfformiadau unigol dwys, agos-atoch a hirbarhaus ar adegau, ac mae’n cydweithio’n aml gyda phobl fel EP/64, Moor Mother, Valentina Magaletti, Robert Ridley-Shackleton a Copper Sounds. Mae ymagwedd Dan yn gwbl hyblyg ac yn canolbwyntio ar archwiliad ystyrlon. Mae cynulleidfaoedd wedi disgrifio ei berfformiadau fel bregus, hael, hirbarhaus a rhydd.

Artist sain yng Nghaerdydd yw Heledd C Evans, a raddiodd mewn Celf Gain o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn ddiweddar. Mae hi’n creu ymyriadau sonig sy’n ceisio tarfu a gwella ein hamgylchedd. Mae hi hefyd yn cyd-gyflwyno sioe gelfyddydol wythnosol, Pitch Radio, ar Radio Caerdydd. Mae Heledd yn creu seinweddau drwy gyfuniad o recordiadau maes, adrodd, tonau drôn ac elfennau electronig, a’i ffidil. Mae hi’n gweithio’n safle-benodol yn bennaf, ac mae’n well ganddi greu gwaith sy’n benodol i un lleoliad o ran ei gynnwys a’i acwsteg.

Share

Digwyddiadur - cipolwg

Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!

Dysgu mwy