
Performance
David Grubbs and Secluded Bronte + support from Jo Kelly
- 2h 50m
Nodweddion
- Hyd 2h 50m
- Math Music
Ymunwch â ni ar gyfer noson o sain arbrofol gan David Grubbs a Secluded Bronte, ar ôl i albwm unigol ddiweddaraf Grubb ac EP Secluded Bronte gael eu rhyddhau. Gyda chefnogaeth gan y basydd-dwbl, Jo Kelly.
Mae tocynnau bargen gynnar ar gael tan 26 Chwefror. Defnyddiwch y cod EARLYBIRD6 ar y cam talu.
___
Ynglŷn â'r artistiaid
David Grubbs
Mae David Grubbs wedi bod yn creu cerddoriaeth ers deugain mlynedd. Dros y blynyddoedd, mae David wedi bod yn aelod o Gastr del Sol, Bastro a Squirrel Bait. Mae David hefyd yn awdur. Mae wedi cyhoeddi pedwar llyfr – Good night the pleasure was ours, The Voice in the Headphones, Now that the audience is assembled, a Records Ruin the Landscape: John Cage, the Sixties, and Sound Recording (oll wedi’u cyhoeddi gan Duke University Press). Rhyddhawyd ei albwm ddiweddaraf Whistle From Above (Drag City) ym mis Chwefror.
Secluded Bronte
Fe wnaeth Secluded Bronte – sef Richard Thomas, Adam Bohman a Jonathan Bohman – ffurfio yn Llundain a lansio yn Ninas Efrog Newydd yn 2002. Mae cerddoriaeth y triawd Eingl-Gymreig yn cyfuno elfennau byrfyfyr rhydd, roc, musique concrète, dyb a gair llafar. Maen nhw wedi cael eu cymharu ag amrywiaeth eang o artistiaid – This Heat, Wire, Jean-Luc Godard, Ennio Morricone, The Residents, The Fall, John Cage, Sun Ra – ond, yn y pen draw, does dim modd rhoi Secluded Bronte mewn categori. Maen nhw wedi teithio’n eang ledled Ewrop a gwledydd Prydain. Mae yna albwm newydd, Incidental Games, i ddod yn 2025.
Jo Kelly
Cerddor a dylunydd gemau o Fryste yw Jo Kelly, sy’n echdynnu ystod eithriadol o seiniau o’u hofferyn, o sŵn garw o’r dyfnderoedd i geinder cyflym – pruddglwyf wedi’i ddyrchafu i fod yn aruchel. Byddan nhw’n cyflwyno perfformiad cwbl fyrfyfyr ar y bas dwbl, yn seiliedig ar eu halbwm ddiweddar ‘ᚹ’. ‘Mynegiant o lawenydd, llonyddwch a chwareusrwydd pur. Pelydryn trwm o heulwen yn cwympo ar draws eich llygaid.’
More at Chapter
-
- Events
Noson Lawen: Cerdd a Chanu yn y Bar
-
- Events
Neo Soul Jams
Ymunwch â ni mewn noson o gerddoriaeth, cysylltiad, a chydweithio yng nghanol Caerdydd.
-
- Performance
Copper Sounds + cefnogaeth gan Gwen Siôn
Ymunwch â’r ddeuawd gelf Copper Sounds am noson o synau arbrofol yn defnyddio gwrthrychau sonig maen nhw’n eu chwarae’n fyw.
-
- Performance
Jenny Moore — Sing to Stay Alive: gweithdy corawl
Yn seiliedig ar Wild Mix gan Jenny Moore, sef sioe gerdd newydd am ddefodau cwiar ar gyfer goroesi, mae’r gweithdy yma’n cynnig lle i leisio, dirgrynu a phrofi defod cyd-ganu fel mecanwaith goroesi. I unrhyw un y dywedwyd wrthynt am gau eu ceg neu i beidio â bod â ffydd yn eu corff.