
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Susan Seidelman
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 1985
- Hyd 1h 39m
- Tystysgrif 15
Mae diddordeb Roberta, gwraig tŷ rwystredig, ym mywydau pobl yn yr hysbysebion personol yn ei harwain ar daith i ddinas Efrog Newydd a thrwy gyfres o ddamweiniau a chamddealltwriaethau, mae’n cael ei chamgymryd am y Susan ryddfrydig, sy’n cael ei dilyn gan leidr gemwaith. Y ffilm eiconig yma oedd ymddangosiad cyntaf Madonna ac mae’n llawn artistiaid a ffasiwn sy’n cyfleu Efrog Newydd ar ei gorau fel y ddinas foethus, fudr. Stori dylwyth teg ôl-bync am ffeministiaeth, cariad, cyfeillgarwch a phosibiliadau.
+ Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r cyfarwyddwr Susan Seidelman ddydd Gwener 18 Gorffennaf a llofnodi llyfrau i ddilyn.
Times & Tickets
-
Dydd Gwener 18 Gorffennaf 2025