Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Film

Dope Girls Preview + Q&A with RTS Cymru

  • 2024
  • 2h 0m

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Shannon Murphy
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 2h 0m
  • Math Film

Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhagflas ecsgliwsif o’r ddrama BBC Dope Girls, a gyflwynir gan Bad Wolf, RTS Cymru Wales a Cymru Creadigol.

Cewch gyfle i wylio pennod 1 o'r gyfres ddrama drosedd newydd sbon yma, ac yna trafodaeth banel a sesiwn holi-ac-ateb gyda'r tîm creadigol, wrth iddynt ymelaethu ar sut greuwyd y gyfres newydd.

Mae Dope Girls yn ddrama feiddgar chwe rhan newydd sy’n dod i BBC One a BBC iPlayer fydd yn dod â strydoedd Soho ym 1918 yn fyw. Wedi’i hysbrydoli gan gyfnod anghofiedig mewn hanes, mae’r gyfres yn archwilio sîn clwb tanddaearol anghyfreithlon cynyddol Soho wrth i fenywod archwilio cyfleoedd annirnadwy gynt ar y naill ochr a’r llall i’r gyfraith.

___

Panel:

Jane Tranter, Bad Wolf – Cynhyrchydd Gweithredol
Kate Crowther, Bad Wolf - Cynhyrchydd Gweithredol
Shannon Murphy – Cyfarwyddwr
Sophie Canale – Dylunydd Gwisgoedd
Sherree Philips – Dylunydd Cynhyrchu
Edward Russell, Cadeirydd RTS Cymru Wales yn cynnal y panel trafod

Share