Nid yw ein lifft ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio i'w drwsio cyn gynted ag sy'n bosib. Mae'n ddrwg gennyf am yr anhwylustod.

Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar. Gallwch nawr wneud pryniadau yn bersonol, dros y ffôn ac ar-lein. Diolch am eich amynedd.

Read more

Film

Episode 2.13 and 2.14 Twin Peaks

adv15
  • 1991
  • USA

£0 - £5

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
  • Tarddiad USA
  • Blwyddyn 1991
  • Tystysgrif adv15

2.13 Checkmate

UDA | 1991 | 46’ | cynghorir 15 | Todd Holland

Mae MajorBriggs yn dychwelyd gyda thatŵ rhyfedd ar ei wddf. Mae Andy a Dick yn torri i mewn i ffeiliau LittleNicky. Mae Evelyn yn gofyn i James ladd ei gŵr.


2.14 DoublePlay

UDA | 1991 | 46’ | cynghorir 15 | UliEdel

Mae WindomEarle yn cymryd ei ddioddefwr cyntaf mewn gêm wyddbwyll farwol. Mae Leo’n deffro ac yn ymosod ar Shelly.


____

TwinPeaks: The Complete Mystery

Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdurHillStreet Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.

Roedd y gwaith yn greadigaeth nodedig yn hanes teledu, a chafodd swyddogion teledu eu drysu ar y pryd gan yr ymgais freuddwydiol ac abswrdaidd yma ar ddrama episodig. Dechreuon nhw golli ffydd ynddi yn ystod yr ail dymor, a arweiniodd Lynch a Frost i orffen y gyfres yn gynt na'r disgwyl. Gwnaeth Lynch ffilm nodwedd ragarweiniol wydn i’r gyfres, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gyfres mawr ei harosTwinPeaks: The Return, a oedd yn parhau â’r plot o ddiweddglo ffrwydrol yr ail gyfres i ddangos canlyniadau drygioni heb ei ddatrys am genhedlaeth.

Cafodd y trydedd gyfres a’r gyfres olaf, sy’n fyfyrdod metaffisegol ar amser, tarddiad drygioni, gwaddol a phwysigrwydd cymuned, ei galw gan lawer yn un o’r darnau mwyaf nodedig o gelf symud o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Dewch ar daith gyda ni i archwilio’r dirgelwch llawn dros 25 wythnos.

Share

Times & Tickets