
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2017
- Hyd 1h 52m
- Tystysgrif adv15
- Math Film
3.1 My Log Has a Message for You
UDA | 2017 | 59’ | cynghorir 15 | David Lynch
Bum mlynedd ar hugain ar ôl helyntion y gyfres flaenorol, mae’r Asiant FBI Dale Cooper yn gobeithio dianc rhag ei dynged. Yn Twin Peaks mae Dr Jacoby yn derbyn llwyth o rawiau, ac mae Deputy Hawk yn cael galwad gan y Log Lady. Yn Ne Dakota, mae corff heb ben yn cael ei ddarganfod mewn tre faestrefol, ac mae endid yn ymddangos o flwch gwydr mewn warws yn Ninas Efrog Newydd.
+
3.2 The Stars Turn and a Time Presents Itself
UDA | 2017 | 53’ | cynghorir 15 | David Lynch
Mae doppelgänger Cooper, Mr C, yn gwneud bargeinion busnes amheus yn y Dakotas. Yn Las Vegas, mae dyn busnes yn cysylltu â phobl mae’n eu nabod. Y tu mewn i'r Black Lodge, mae Cooper yn dod ar draws ysbrydion ar ffurf arall ac yn syrthio i'r blwch gwydr yn Ninas Efrog Newydd. Mae The Chromatics yn perfformio yn The Roadhouse ac mae Shelley’n fflyrtio gyda James.
____
Twin Peaks: The Complete Mystery
Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdur Hill Street Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.
Roedd y gwaith yn greadigaeth nodedig yn hanes teledu, a chafodd swyddogion teledu eu drysu ar y pryd gan yr ymgais freuddwydiol ac abswrdaidd yma ar ddrama episodig. Dechreuon nhw golli ffydd ynddi yn ystod yr ail dymor, a arweiniodd Lynch a Frost i orffen y gyfres yn gynt na'r disgwyl. Gwnaeth Lynch ffilm nodwedd ragarweiniol wydn i’r gyfres, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gyfres mawr ei haros Twin Peaks: The Return, a oedd yn parhau â’r plot o ddiweddglo ffrwydrol yr ail gyfres i ddangos canlyniadau drygioni heb ei ddatrys am genhedlaeth.
Cafodd y trydedd gyfres a’r gyfres olaf, sy’n fyfyrdod metaffisegol ar amser, tarddiad drygioni, gwaddol a phwysigrwydd cymuned, ei galw gan lawer yn un o’r darnau mwyaf nodedig o gelf symud o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.
Dewch ar daith gyda ni i archwilio’r dirgelwch llawn dros 25 wythnos.
Defnyddiwch y cod gostyngiad TWINPEAKS100 i ddatgloi ein cynnig sypyn am £100 pan fyddwch chi’n ychwanegu 22 dangosiad i’ch basged.
Times & Tickets
-
Dydd Sul 27 Gorffennaf 2025
-
Dydd Mawrth 29 Gorffennaf 2025
Key
- C Capsiynau
More at Chapter
-
- Film
Episode 1.7 and 1.8 Twin Peaks
1.7 Realisation Time 1.8 The Last Evening
-
- Film
Twin Peaks: Marathon Tymor Un
Ymunwch a ni am farathon tymor 1 o Twin Peaks!
-
- Film
Episode 2.1 and 2.2 Twin Peaks
2.1 May the Giant Be With You 2.2 Coma
-
- Film
Episode 2.3 and 2.4 Twin Peaks
2.3 The Man Behind the Glass 2.4 Laura's Secret Diary