Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Film

Episode 3.13 and 3.14 Twin Peaks

adv15
  • 2017
  • 1h 55m
  • USA

£0 - £5

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
  • Tarddiad USA
  • Blwyddyn 2017
  • Hyd 1h 55m
  • Tystysgrif adv15
  • Math Film

3.13 What Story Is That, Charlie?

UDA | 2017 | 59’ | cynghorir 15 | David Lynch

Mae'r brodyr Mitchum yn diolch i Dougie a Bushnell gydag anrhegion. Yn y cyfamser, mae Mr C yn trechu arweinydd gang. Yn Twin Peaks mae Big Ed a Bobby yn cael cinio ac mae Nadine a Dr. Jacoby yn cyfarfod am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Mae Audrey’n pledio gyda Charlie. Mae James Hurley yn perfformio yn The Roadhouse.

+

3.14 We Are Like The Dreamer

UDA | 2017 | 56’ | cynghorir 15 | David Lynch

Mae Frank yn dweud wrth Gordon am yr hyn maen nhw wedi'i ddarganfod yn y dyddiadur ac mae Albert yn sôn am yr achos Blue Rose cyntaf. Mae Chad yn cael ei arestio. Mae siryfion Twin Peaks yn dod o hyd i Naido’n noeth ac mae Andy’n cael cliwiau pwysig. Mae Freddie Sykes yn trafod ei weledigaeth o'r Dyn Tân. Mae Lissie yn perfformio yn The Roadhouse.


____

Twin Peaks: The Complete Mystery

Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdur Hill Street Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.

Roedd y gwaith yn greadigaeth nodedig yn hanes teledu, a chafodd swyddogion teledu eu drysu ar y pryd gan yr ymgais freuddwydiol ac abswrdaidd yma ar ddrama episodig. Dechreuon nhw golli ffydd ynddi yn ystod yr ail dymor, a arweiniodd Lynch a Frost i orffen y gyfres yn gynt na'r disgwyl. Gwnaeth Lynch ffilm nodwedd ragarweiniol wydn i’r gyfres, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gyfres mawr ei haros Twin Peaks: The Return, a oedd yn parhau â’r plot o ddiweddglo ffrwydrol yr ail gyfres i ddangos canlyniadau drygioni heb ei ddatrys am genhedlaeth.

Cafodd y trydedd gyfres a’r gyfres olaf, sy’n fyfyrdod metaffisegol ar amser, tarddiad drygioni, gwaddol a phwysigrwydd cymuned, ei galw gan lawer yn un o’r darnau mwyaf nodedig o gelf symud o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Dewch ar daith gyda ni i archwilio’r dirgelwch llawn dros 25 wythnos.

Defnyddiwch y cod gostyngiad TWINPEAKS100 i ddatgloi ein cynnig sypyn am £100 pan fyddwch chi’n ychwanegu 22 dangosiad i’ch basged.

Share

Times & Tickets

Key

  • C Capsiynau